Judith Humphreys
actores a aned yn 1960
Actores o Gymraes ydy Judith (Mary) Humphreys (ganwyd Ionawr 1960). Mae ei pherfformiadau ffilm yn cynnwys Hedd Wyn[1] a Stormydd Awst.[2]
Judith Humphreys | |
---|---|
Ganwyd | 1960 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor |
Priod | Jerry Hunter |
Mae hi wedi gweithio gyda'r elusennau Cymorth Cristnogol a Cofis Bach. Yn 2014 sefydlodd hi Codi'r To, sefydliad gyda thebygrwydd i El Sistema. Mae'n aelod o fwrdd Cwmni'r Fran Wen.
Etholwyd hi yn gynghorydd Plaid Cymru, yn ward Pen-y-groes yn etholiadau Cyngor Sir Gwynedd 4 Mai 2017[3][4].