Megan York
Mae Megan York (ganwyd 16 Ebrill, 1987) yn chwaraewr rygbi'r undeb Cymreig sy'n chwarae yn safle'r prop dros Glwb Rygbi Ynysddu a thîm rygbi merched undeb cenedlaethol Cymru. Enillodd ei chap rhyngwladol cyntaf yn erbyn Yr Alban ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad y Merched 2012, gan sgorio ei chais cyntaf yn erbyn Lloegr yn 2013.
Dyddiad geni | 16 Ebrill 1987 | ||
---|---|---|---|
Man geni | Pontypool, Torfaen | ||
Taldra | 1.57 metre (5.2 ft) | ||
Pwysau | 76 kilogram (12.0 st) |
Cafodd York ei eni yng Nghasnewydd, Gwent ar 16 Ebrill 1987, mae ei phroffil swyddogol ar wefan Undeb Rygbi Cymru yn nodi ei bod yn 1.57 metr (5.2 troedfedd) o uchder, ac yn pwyso 76 cilogram (12.0 stôn).[1]
Gyrfa golygu
Wedi chwarae'n dda i'w chlwb yn ystod tymor 2011-12, daeth hi i sylw'r detholwyr ar gyfer y tîm cenedlaethol a chafodd ei dewis ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad y Merched 2012. Gwnaeth ei début trwy gael ei dwyn ymlaen fel eilydd yn y 67ain munud yn erbyn yr Alban; enillodd Cymru'r gêm 20-0. Yn nhwrnamaint 2012-13 sgoriodd ei chais cyntaf mewn gêm a gollwyd yn erbyn Lloegr.
Cafodd cais buddugol York yn erbyn Ffrainc ar y Gnoll ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2016 ei gymharu ag un a sgoriwyd gan Graham Price ar ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf yn erbyn Ffrainc ym 1975[2]. Disgrifiodd Nick Webb ar Sports Wales BBC Cymru cais York fel un "gwych". Llwyddodd cais gan Yorke i roi buddugoliaeth i Gymru yn erbyn Ffrainc am ddim ond y bedwaredd tro yn hanes y twrnamaint gan gymhwyso Cymru ar gyfer Cwpan Byd y Merched yn 2017. Ar hyn o bryd mae hi'n chwarae i Glwb Rygbi Ynysddu a Dreigiau Casnewydd Gwent.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ "Megan York". Wales Rugby Union. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-06-10. Cyrchwyd 25 Mai 2016.
- ↑ JUST WHO IS TOP OF THE PROPS... PRICEY OR MEGAN?-a0445226551[dolen marw] The Free Library. (2016). Adalwyd Mai 25, 2016