Meinir Jones
Cyflwynydd teledu yw Meinir Jones (ganwyd 26 Rhagfyr 1985) sydd ar hyn o bryd yn cyflwyno rhaglen Ffermio ar S4C.
Meinir Jones | |
---|---|
Ganwyd | 26 Rhagfyr 1985 Capel Isaac |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyflwynydd teledu |
Magwyd Meinir ar fferm yng Nghapel Isaac ger Llandeilo, a Ffermio yw'r rhaglen gyntaf iddi ei chyflwyno, ar ôl pedair blynedd yn gweithio fel cyfarwyddwr ac ymchwilydd ar y gyfres.[1]
Cafodd ei haddysg yn Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanfynydd, ger Llandeilo, ac yna'n Ysgol Gyfun Tre-Gib, Ffairfach. Graddiodd mewn Cymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu o Brifysgol Aberystwyth yn 2007, gan dderbyn swydd fel ymchwilydd ar Ffermio.
Yn ogystal â gweithio ar Ffermio, mae’n gweithio ar fferm ddefaid a gwartheg ei rhieni a'i brawd.
Mae gan Meinir ddiadell ei hun o ddefaid Balwen Cymreig ac yn eu harddangos mewn sioeau. Mae Meinir hefyd yn aelod brwd o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanfynydd.
Yn 2014, derbyniodd Wobr Goffa Bob Davies gan Undeb Amaethwyr Cymru am ei gwaith yn codi proffil cyhoeddus ffermio yng Nghymru drwy ei gwaith yn y cyfryngau. Cyflwynwyd y wobr idd, sef ffon fugail wedi ei cherfio yn arbennig gan wneuthurwr ffyn o Aberystwyth, Hywel Evans, gan Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Emyr Jones.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cue Meinir, a farmer’s daughter for Ffermio (en) , WalesOnline, 18 Ionawr 2011.
- ↑ Cyflwynwraig S4C yn derbyn Gwobr Goffa Bob Davies , Golwg360, 25 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd ar 22 Chwefror 2016.