Meinir Pierce Jones

Awdur, golygydd a chyfieithydd o Gymraes

Cyfieithydd, golygydd ac awdur o Gymraes yw Meinir Pierce Jones (ganed 1957). Addysgwyd Meinir yn Ysgol Nefyn, Ysgol Glan y Môr, Pwllheli a Choleg Prifysgol Cymru, Bangor.

Meinir Pierce Jones
Ganwyd1957 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethawdur, cyfieithydd Edit this on Wikidata
PlantCasia Wiliam Edit this on Wikidata

Cyhoeddodd ei nofel gyntaf ar gyfer oedolion, Y Gongol Felys yn 2005 ac fe'i dewisiwyd ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2006.[1] Mae hi wedi ysgrifennu dau lyfr i blant yn y gyfres Chwedlau o Gymru, sef Bargen Siôn ac Y Bychan Benthyg.

Enillodd Gwobr Goffa Daniel Owen am ei nofel Capten yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ceredigion 2022.[2]

Gwaith golygu

Ei swydd gyntaf oedd swyddog golygyddol gyda'r Cyngor Llyfrau yn Aberystwyth. Ers hynny bu'n gweithio fel awdur a chyfieithydd a sgriptwraig yn bennaf. Bu hefyd yn gweithio fel rheolwr prosiect i ailagor a rhedeg Amgueddfa Forwrol Llŷn rhwng 2011 a 2019.

Yn fwy diweddar roedd yn gweithio fel golygydd creadigol gyda Gwasg y Bwthyn yng Nghaernarfon.

Bywyd personol golygu

Cafodd ei magu ar fferm ar gyrion Nefyn ac ar ôl crwydro dipyn daeth adref, ac yno y mae hi a'i chymar Geraint yn byw ers chwarter canrif a mwy. Mae ganddyn nhw bedwar o blant - Math, Casia, Efa a Sabel.

Llyfryddiaeth golygu

Llyfrau plant golygu

Llyfrau oedolion golygu

Eraill golygu

  • Cyfres Llyfrau Cwis: Llyfr Cwis, gyda Geraint Williams (Gwasg Gwynedd, Rhagfyr 2001)
  • Y Gongol Felys, crynoddisg, addasiad llafar/talfyriad, adroddwyd gan Jennifer Vaughan) (Tympan, Tachwedd 2007)

Cyfeiriadau golygu

  1.  Rhestr Awduron Cymru > JONES, MEINIR PIERCE. Llenyddiaeth Cymru. Adalwyd ar 16 Mehefin 2011.
  2. Meinir Pierce Jones yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owen , BBC Cymru Fyw, 2 Awst 2022.

Dolenni allanol golygu