Melin Eilian
(Ailgyfeiriad o Melin Eilian, Amlwch)
Melin wynt ydy Melin Eilian sydd wedi'i lleoli ger Amlwch, Ynys Môn (Rhif Grid: SH 449913).[1] Mae'n dyddio'n ôl i o leiaf 1850. Defnyddiwyd y felin i grensian a thorri mwynau o'r chwareli er mwyn eu paratoi ar gyfer y diwydiant paent.
Mae nhw'n dweud mai hen le gwyntog ydy Môn ac mai dyna pam fod dros 50 o felinau wedi eu codi dros y blynyddoedd - yn bennaf yn y 18fed a'r 19g. Y gwir yw fod yma lawer o gaeau gwastad, boed ŷd neu wenith, fel a sonir yn y dywediad hwnnw: Môn Mam Cymru. Mae nifer ohonyn nhw bellach wedi diflannu'n llwyr neu wedi dadfeilio; mae eraill yn dal i'w gweithio a llond dwrn wedi'u hadfer yn dai.
Melinau yn ardal Amlwch
golyguGweler hefyd
golygu- Y lleoliad heddiw, ar Google: [1]
- Rhestr Melinau Gwynt Ynys Môn
- Ffynnon Eilian
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Anglesey History - Windmills". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-14. Cyrchwyd 2014-05-20.