Dinas yng ngogledd-ddwyrain Wrwgwái a phrifddinas Talaith Cerro Largo yw Melo. Saif cyrion gorllewinol y ddinas ar lednant o Afon Tacuarí a elwir Arroyo de los Conventos, ger y ffin â Brasil. Mae ganddi boblogaeth o ryw 50,000.

Melo
Mathendid tiriogaethol gweinyddol, prifddinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth51,830 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 27 Mehefin 1795 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserAmerica/Montevideo Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Sbaeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCerro Largo Department Edit this on Wikidata
GwladWrwgwái Edit this on Wikidata
Uwch y môr80 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau32.37°S 54.18°W Edit this on Wikidata
Cod post37000 Edit this on Wikidata
Map

Sefydlwyd gorsaf filwrol Sbaenaidd yma yn 1795 gan y Capten Agustín de la Rosa. Fe'i enwyd ar ôl Pedro de Melo, Rhaglaw'r Río de la Plata.[1]

Ymhlith yr enwogion o Melo mae'r llenorion Juana de Ibarbourou, Emilio Oribe, ac Emir Rodríguez Monegal.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Melo. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Mehefin 2019.