Emir Rodríguez Monegal
Beirniad llenyddol, golygydd, ac academydd o Wrwgwái oedd Emir Rodríguez Monegal (28 Gorffennaf 1921 – 14 Tachwedd 1985). Roedd yn un o hoelion wyth La Generación del 45, yn feirniad ac ysgrifwr toreithiog, yn gyd-sefydlydd y cylchgrawn Número, ac yn hyrwyddwr hynod o ddylanwadol yn llên America Ladin yng nghanol yr 20g.
Emir Rodríguez Monegal | |
---|---|
Ganwyd | 28 Gorffennaf 1921 Melo |
Bu farw | 14 Tachwedd 1985, 13 Tachwedd 1985 New Haven |
Dinasyddiaeth | Wrwgwái |
Galwedigaeth | llenor, bardd, academydd, beirniad llenyddol, Rhufeinydd |
Cyflogwr | |
Arddull | traethawd |
Mudiad | La Generación del 45 |
Ganwyd ym Melo, prifddinas talaith Cerro Largo yng ngogledd-ddwyrain Wrwgwái. Yn 1943 dechreuodd ysgrifennu i'r cylchgrawn wythnosol Marcha, ac o 1945 i 1957 efe oedd golygydd yr adran lenyddol.[1] Yn 1949 sefydlwyd y cylchgrawn llenyddol Número gan Rodríguez Monegal, Idea Vilariño, a Manuel Claps, a pharodd y cyhoeddiad hwnnw tan 1955. Ailgychwynnwyd y fenter am ail gyfres yn 1963, ac unwaith eto Rodríguez Monegal oedd un o brif gyfranwyr y cylchgrawn. Bu ffrae o ganlyniad i'w ddatganiad ei fod yn gwrthwynebu Chwyldro Ciwba, ac ymddiswyddodd nifer o aelodau'r bwrdd golygyddol. Daeth ail gyfres Número i ben yn 1964.[2]
Aeth i Baris yn 1966 ac yno sefydlodd y cylchgrawn Sbaeneg Mundo Nuevo. Yn y cyhoeddiad hwnnw hyrwyddwyd nofelwyr el boom latinoamericano, yn eu plith Gabriel García Márquez, Carlos Fuentes, Mario Vargas Llosa, Julio Cortázar, a José Donoso, a chyhoeddwyd gweithiau cynnar gan lenorion megis Guillermo Cabrera Infante, Severo Sarduy, a Manuel Puig. Bu sgandal ynghylch nawdd ariannol Mundo Nuevo, a oedd yn tarddu o'r CIA yn ôl y sôn, ac ymddiswyddodd Rodríguez Monegal yr olygyddiaeth yn 1968.[1][3]
Rodríguez Monegal oedd un o'r beirniaid cyntaf i gydnabod pwysigrwydd Jorge Luis Borges. Ysgrifennodd hefyd gyfrolau o feirniadaeth a bywgraffiadau am Pablo Neruda, Andrés Bello, Horacio Quiroga, a José Enrique Rodó. Penodwyd yn athro llên America Ladin ym Mhrifysgol Yale yn 1969, ac ymsefydlodd felly yn New Haven, Connecticut, yn Unol Daleithiau America.[1] Roedd hefyd yn athro gwadd i El Colegio de Mexico, Prifysgol Harvard, Prifysgol De Califfornia, Prifysgol Pittsburgh, a'r Universidade Federal yn Rio de Janeiro, ac yn ysgolhaig gwadd i Brifysgol Lerpwl. Cyhoeddodd ambell lyfr yn Saesneg am lên America Ladin. Bu farw yn yr ysbyty New Haven yn 64 oed.[4]
Llyfryddiaeth ddethol
golygu- El juicio de los parricidas: La nueva generación argentina y sus maestros (1956).
- El viajero inmóvil: Introducción a Pablo Neruda (1966).
- El desterrado: Vida y obra de Horacio Quiroga (1968).
- Narradores de esta América (1969).
- El otro Andrés Bello (1969).
- The Borzoi Anthology of Latin American Literature (1977).
- Jorge Luis Borges: A Literary Biography (1978).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Emir Rodríguez Monegal. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Mai 2019.
- ↑ Norah Giraldi Dei Cas, "Número" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain; Routledge, 2004), t. 391.
- ↑ (Saesneg) Nicolas Shumway, "Rodríguez Monegal, Emir (1921–1985)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 23 Mai 2019.
- ↑ (Saesneg) "E. Rodriguez Monegal", The New York Times (19 Tachwedd 1985). Adalwyd ar 23 Mai 2019.
Darllen pellach
golygu- John P. Dwyer et al., Homenaje a Emir Rodríguez Monegal (1986).