Melysion tynnu
Melysion a gaiff eu tynnu mewn y broses o'u gwneud yw melysion tynnu.
Mae roc i gyd yn felysion tynnu, a hefyd rhai mathau o daffi. Gellir gwneud melysion tynnu o surop siwgr plaen, er enghraifft hymbygs. Mainteisir yn aml ar y dechneg dynnu i ymuno edefynnau o wahanol liwiau, neu linyn tywyll wedi ei dynnu a llinyn claear heb ei dynnu. Ceir melysion o'r fath ar draws Ewrop: losin llygad tarw yng ngwledydd Prydain, berlingots in Ffrainc, a polkagris yn Sweden.[1]
Yng Ngorllewin Ewrop a Gogledd America defnyddir y dechneg hon yn bennaf, ond ceir hefyd melysion tynnu yn y Dwyrain Canol ac Asia. Mae'n well i nifer o bobl ei gwneud ar yr un pryd, fel y gallent tynnu swp llawn cyn iddo oeri. O ganlyniad mae tynnu melysion yn weithgaredd poblogaidd yn y cartref ac ar gyfer partïon. Gan amlaf defnyddir peiriannau i dynnu gan wneuthurwyr masnachol.[1]