Losin llygad tarw

Melysion berwi traddodiadol yng Ngwledydd Prydain a chanddynt batrwm troellog o liwiau gwyn a du neu frown yw losin llygad tarw,[1] pelenni mintys[1] neu ar lafar yng Ngogledd Cymru lympiau brithion (ffurf unigol: lwmpyn brith).[1][2] Gwneir surop o siwgr brown a chaiff ei goginio i'r cam hollt feddal, ac yna ei dorri'n rhannau anghymesur. Tynnir y rhan sy'n lleiaf ei maint gan ei gwneud yn wyn ac anhryloyw. Caiff y rhan sydd yn fwy ei maint ei blasu gyda chymysgedd asidaidd, er enghraifft sudd lemwn ac asid tartarig, i gadw ei lliw brown claear. Ailgyfunir y ddau surop er mwyn tynnu'r cymysgedd yn stribyn hir, ei dorri, a'i rolio i wneud y melysion. Fel dull arall, gellir arwahanu dau swp o surop, a lliwio un ohonynt.[3]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Geiriadur yr Academi, [bull's-eye: (sweet)].
  2.  lwmp. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 16 Mehefin 2015.
  3. Davidson, Alan. The Oxford Companion to Food (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2006), t. 113–114.