Klaipėda
Dinas trydydd-fwyaf Lithwania yw Klaipėda (Lithwaneg: amlwg [ˈkɫɐɪˑpʲeːd̪ɐ] (gwrando)) neu Memel[1]. Dyma lle mae Afon Nemunas yn llifo i mewn i'r Môr Baltig. Klaipėda yw phrifddinas Apskritis Klaipėda.
Math | dinas, dinas â phorthladd, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 158,420 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Arvydas Vaitkus |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | Gdynia |
Daearyddiaeth | |
Sir | Klaipeda City Municipality |
Gwlad | Lithwania |
Arwynebedd | 98 km² |
Uwch y môr | 21 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 55.7125°N 21.135°E |
Cod post | LT-91001 |
Pennaeth y Llywodraeth | Arvydas Vaitkus |
Mae defnydd o'r enw "Memel", sydd o darddiad Lladin trwy Almaeneg (yn deillio o'r ymadrodd "Castrum Memele", a ddefnyddiwyd gyntaf tua 1250) mewn testunau Cymraeg i gyfeirio at y ddinas hon wedi cael ei defnyddio mor bell yn ôl â'r 16g. "Memel" hefyd yw'r enw Almaeneg a'r enw Saesneg hanesyddol am y ddinas.
Mae Porthladd Klaipėda yn bwysig yn yr ardal. Mae'r porthladd fel arfer yn rhydd o iâ'r Môr Baltig. Bu dan reolaeth y Marchogion Tiwtonaidd, Prwsia, yr Ymerodraeth Almaenig, yr Entente, Lithwania, a'r Trydydd Reich. Daeth y ddinas yn rhan o Lithwania tra roedd yn Weriniaeth Sosialaidd Sofietaidd.
Parhaodd Klaipėda yn rhan o Lithwania yn dilyn annibyniaeth y wlad. Gostyngodd y boblogaeth o 207,100 yn 1992 i 177,823 yn 2011. Mae cyrchfannau glan môr poblogaidd yn agos at Klaipėda yn Nida i'r de ar y Dafod Curoniaidd, a Palanga i'r gogledd.
Adeiladau a chofadeiladau
golygu- Amgueddfa Fort Wilhelm
- Arena Švyturys
- Castell Klaipėda
- Cofadeilad Arka
- Goleudy Klaipėda
- Llyfrgell Ieva Simonaitytė
- Prifysgol Klaipėda
Cyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol y ddinas Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback