Merion, Pennsylvania
Cymuned heb ei hymgorffori (unincorporated community) ym Montgomery County, talaith Pennsylvania, Unol Daleithiau America, yw Merion.[1] Saif ychydig i'r gorllewin o ddinas Philadelphia. Sefydlwyd Merion gan Grynwyr a ymfudodd o Sir Feirionnydd yng Nghymru. Mae Tŷ Cwrdd Cyfeillion Merion, a adeiladwyd gan y Cyfeillion (Crynwyr) Cymreig ym 1695, yn cael ei ystyried yn National Historic Landmark, sef adeilad a gaiff ei gydnabod yn swyddogol gan Lywodraeth yr Unol Daleithiau am ei arwyddocâd hanesyddol, eithriadol.
Math | cymuned heb ei hymgorffori, anheddiad dynol |
---|---|
Poblogaeth | 5,741 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Montgomery County |
Gwlad | UDA |
Cyfesurynnau | 39.9933°N 75.2511°W |
Enwogion
golygu- Leopold Stokowsky, arweinydd cerddorfeydd[2]
- Maria von Trapp, aelod y deulu von Trapp, testun y ffilm The Sound of Music[2] Symudodd y teulu i Ferion ym 1939, ac aethant i Stowe, Vermont ym 1943[3]
Cludiant
golyguMae Gorsaf reilffordd Merion ar lein SEPTA Paoli-Thorndale[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Gwefan Cymdeithas Ddinesig Merion". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-25. Cyrchwyd 2014-12-22.
- ↑ 2.0 2.1 "Cylchgrawn Cymdeithas Ddinesig Merion, Gwanwyn 2013" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-10-15. Cyrchwyd 2014-12-22.
- ↑ "Cylchgrawn Cymdeithas Ddinesig Merion, Gaeaf/Gwanwyn 2010" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-03-06. Cyrchwyd 2014-12-22.
- ↑ Map y rhwydwaith SEPTA
Oriel
golygu-
Yr orsaf reilffordd
-
arwydd ym Merion
-
arwydd ym Merion
-
bws ysgol