Merlen Gymreig

(Ailgyfeiriad o Merlyn Cymreig)

Ceir pedwar brîd o ferlod Cymreig (Adran A - D) ac mae eu pedigri wedi'i gofnodi'n eitha manwl gan Gymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig sef cymdeithas bridiau cynhenid mwyaf gwledydd Prydain. Sefydlwyd y gymdeithas yn 1901 a chyhoeddodd gyfrol Welsh Stud Book flwyddyn yn ddiweddarach sy'n cynnwys y manylion bridio hyn mewn pedair Adran o ferlen neu gob Cymreig. Gall y merlod a'r cobiau fod o unrhyw liw ar wahân i frithliw, coch neu wyn.

Merlen Gymreig
Enghraifft o'r canlynolbrîd o geffylau Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata
Yn cynnwysMerlyn Cymraeg (Adran B), Merlyn mynydd Cymreig, Merlyn Gymreig o deip y cob, Cob Cymreig, Welsh Part-Bred Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Y pedair adran

golygu
Math Llun Taldra
dyrnfedd (llaw)
Dosbarth Disgrifiad
Merlen mynydd Gymreig   Hyd at 12 Adran A Anifail gwydn, deallus a sionc gyda natur garedig - sy'n eu gwneud yn boblogaidd i'w magu ar gyfer plant. Maent wedi eu bridio dros ganrifoedd ar fynyddoedd garw Cymru.
Merlen Gymreig   Hyd sat 13.2 llaw Adran B Ychydig yn fwy na'r Ferelen Fynydd Gymreig Adran A. Dyma oedd ceffyl teithio'r ffermwr mynydd Cymreig am ganrifoedd, yn enwedig y gyrwyr gwartheg. Maent yn neidwyr arbennig o dda.
Merlen Gymreig o deip y cob   Hyd sat 13.2 llaw Adran C Neidwyr heb eu hail ac yn wych mewn harnais.
Cob Cymreig   14 - 15 llaw Adran D "Yr anifail marchogaeth a gyrru gorau'n y byd" yn ôl Gwyddoniadur Cymru.[1] Maent yn helwyr da ac yn arbennig mewn chwaraeon o bob math oherwydd eu dycnwch a'u hystwythder.

Bu'r ferlen fynydd Cymreig yn byw yng Nghymru ers o leiaf 1600 CC a bu'r Cob Cymreig yma ers yr Oesoedd Canol.[2] Credir fod y ferlen fynydd yn ddisgynnydd i'r ferlen Geltaidd gydag ychydig o waed y ferlen Arabaidd yn ddiweddarach gyda dyfodiad y Rhufeiniaid. Dros y canrifoedd maent wedi'u defnyddio el ceffyl rhyfel, mewn gwaith glo ac ar ffermydd.

Sonia Hywel Dda mewn dogfen o 930 am dair math o ferlod a cheffylau: 1. y crynfarch (palfrey) 2. ystrodur (pack horse neu sumpter) 3. yr Equus Operarius neu'r ceffyl cob tynnu gwedd neu, drol neu gar llysg

Mae'r Mabinogi'n llawn o gyfeiriadaeth i geffylau gan gynnwys y dduwies geffylau ei hun: Rhiannon a cheir cyfeiriadau lu i ferlod Cymreig mewn llenyddiaeth Gymraeg o'r15g ac wedyn. Gorchmynodd Harri VIII, brenin Lloegr ddifa pob stalwyni o dan 15 llaw a chesyg llai nag 13 llaw, gan nad oeddent yn dda i ddim mewn rhyfel. Yn ffodus, dihangoss y merlod Cymreig rhag eu difa oherwydd lleoliad eu cynefin.

Tarddiad yr enw

golygu

Yn 1740 fe basiwyd Deddf yn gwahardd ceffylau bychain rhag cymryd rhan mewn rasys ceffylau – oedd yn boblogaidd iawn ymysg byddigion y cyfnod. Prynodd un o deulu Williams-Wynn un o’r ceffylau bach ’ma a’i ollwng o allan ar fryniau Rhiwabon i redeg efo’r ‘ponies’ bach lleol. Roedd hwn yn dipyn o stalwyn ac fe fu’n gyfrifol am wella cymaint ar ansawdd y ceffylau mynydd nes bod ei ddisgynyddion i gyd yn cael eu henwi ar ei ôl. A’i enw? "Merlin". A dyna sut ddaeth ceffylau mynydd i gael ei galw yn ferlynod, merliwns neu merlod.

Dolen allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwyddoniadur Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), t.150
  2. "Welsh Ponies and Cobs". Horse Breeds of the World. International Museum of the Horse. Cyrchwyd 2010-12-29.