Geirfa meddygol wedi'i rheoli'n dynn er mwyn cysondeb a dilysrwydd ydyw Medical Subject Headings (MeSH). Caiff ei defnyddio i greu ambell i fynegai neu fel thesawrws sy'n hwyluso'r gallu i syrffio am y wybodaeth neu ddiffiniad meddygol cywir. Crewyd a chedwir Mesh gan Lyfrgell Meddygol (Cenedlaethol) yr Unol Daleithiau a chaiff ei defnyddio gan MedlinePlus ayb.

Nid oes tâl am fynediad i Mesh, nac am y defnydd o'r wybodaeth a geir ynddi. Daethpwyd a'r ffurf papur i ben yn 2007. Er mai Saesneg ydy iaith wreiddiol y wybodaeth, mae hi, bellach, wedi ei chyfieithu i sawl iaith arall.

Strwythur golygu

Yn 2008 roedd 24,767 benawdau (neu descriptors) gyda phob un â disgrifiad neu ddiffiniad wedi ei ddolennu i benawdau eraill a thermau tebyg.

Cyfeiriadau golygu

Dolennau allanol golygu