Metastwnsh
Blog Cymraeg ar y cyd sy'n trin a thrafod technoleg a'r we fyd-eang oedd Metastwnsh.
Sefydlwyd y wefan yn Rhagfyr 2008 a threfnwyd y prosiect yn gyfangwbl drwy Twitter, heb i'r cyfranwyr gyfarfod unwaith.
Prosiectau
golyguGwnaeth Metastwnsh sawl prosiect ochr-yn-ochr â'r blogio:
- sefydlu gwefan Stwnsh.com Archifwyd 2010-04-16 yn y Peiriant Wayback sy'n lleihau URL;
- dechrau ymgyrch i gynyddu'r rhwydwaith 3G yng Nghymru;
- creu gwefan stwnsh (mashup) ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 2009 - y 'Steddfod Archifwyd 2009-10-05 yn y Peiriant Wayback;
- trefnu cyfarfod Gorsedd y Gîcs yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2009;
- trefnu digwyddiad Hacio'r Iaith yn Ionawr 2010 sydd wedi ei seilio ar gynadleddau BarCamp a diwrnodau Hack Day.
Dolenni allanol
golygu- Metastwnsh.com Archifwyd 2009-08-06 yn y Peiriant Wayback
- Metastwnsh ar Twitter