Methodistiaeth gyntefig
Roedd Methodistiaeth Gyntefig yn fudiad pwysig ym Methodistiaeth yn Lloegr a Chymru o tua 1810 hyd at yr Undeb Methodistaidd yn 1932.[1] Daeth y mudiad allan o wersyllgyfarfodau ("camp meetings") yn Mow Cop, ar y ffin rhwng Swydd Stafford a Swydd Gaer.
Enghraifft o: | former Christian denomination ![]() |
---|---|
Daeth i ben | 1932 ![]() |
Rhan o | Methodistiaeth ![]() |
Dechrau/Sefydlu | c. 1810 ![]() |
Olynydd | Eglwys Fethodistaidd Prydain Fawr ![]() |
Gwladwriaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig ![]() |
Roedd cyntefig yn golygu "syml" neu "yn ymwneud â chyfnod gwreiddiol"; gwelai'r Methodistiaid Cyntefig eu hunain yn arfer ffurf burach o Gristionogaeth. Er nad oedd yr enwad yn defnyddio'r enw "Wesleaidd" (yn wahanol i'r Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd), Wesleaidd oedd Methodistiaeth Gyntefig mewn diwinyddiaeth, mewn cyferbyniad â'r Methodistiaid Calfinaidd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ W. E. Farndale, The Secret of Mow Cop (Llundain: Epworth Press, 1950)