Metrolink, St Louis
Mae Metrolink St Louis yn rhan o rwydwaith cludiant Metro St Louis yn ninas St Louis, Missouri, sydd yn cynnwys bysiau hefyd.
HanesGolygu
Dechreuodd gwaith adeiladu ym 1990, yn defnyddio hen reilffyrdd, gan gynnwys un ar Bont Eads ar draws Afon Mississippi a thwneli o dan ganol y ddinas. Agorwyd y lein gyntaf, 14 milltir o hyd, gyda 16 o orsafoedd, ar 31 Gorffennaf 1993. Agorwyd ail lein, i Faes Awyr Lambert ym 1994, yn ogystal ag estyniad i orsaf reilffordd East Riverfront. Agorwyd Gorsaf reilffordd Terminal #2 y maes awyr ym 1998. Dechreuodd gwaith adeiladu lein newydd i St Clair ym 1998. Agorwyd y lein, gyda 8 o orsafoedd newydd, yn 2001. Yn 2006, agorwyd Estyniad Traws-Gwlad Metrolink, 8 milltir o hyd ac yn cynnwys 9 gorsaf ychwanegol.[1]