Meurig (esgob)
Clerigwr Cymreig a fu'n Esgob Bangor o 1139 hyd ei farwolaeth oedd Meurig, Lladin: Mauricius (bu farw 1161).
Meurig | |
---|---|
Bu farw | 12 Awst 1161 |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, esgob Catholig |
Swydd | esgob esgobaethol |
Bywgraffiad
golyguAr y dechrau, gwrthododd Meurig wneud gwrogaeth i frenin Lloegr yng Nghaerwrangon er mwyn i'r brenin ei gadarnhau fel esgob, ond perswadiwyd ef i wneud hynny gan esgobion Henffordd a Chichester. Cysegrwyd ef gan Archesgob Caergaint yn gynnar yn 1140. Fodd bynnag, ennynodd ei weithred yn gwneud gwrogaeth i'r brenin ddigofaint Owain Gwynedd, ac ymddengys iddo gael ei alltudio o'i esgobaeth rywbryd wedi 1154.
Parhaodd Meurig y gwaith o ail-adeiladu Eglwys Gadeiriol Bangor, gwaith oedd wedi ei ddechrau gan yr esgob blaenorol, Dafydd y Sgotyn.