Michael Buerk
Gohebydd a chyflwynydd teledu ydy Michael Duncan Buerk (ganwyd 18 Chwefror 1946) a weithiodd i'r BBC am nifer o flynyddoedd. Cafodd ei eni yn Solihull.[1] Caiff ei gofio'n bennaf am ei waith fel gohebydd yn Ethiopia yn ystod newyn 1984 a 1985 ac a ysbrydolodd Band Aid.
Michael Buerk | |
---|---|
Ganwyd | 18 Chwefror 1946 Solihull |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyflwynydd newyddion, newyddiadurwr, darlledwr |
Cyflogwr | |
Plant | Roland Buerk |
Gwobr/au | Gwobr George Polk, Medal Mungo Park, James Cameron Memorial Trust Award |
Mewn adolygiad o'r flwyddyn a fu (2012) yn y Mail on Sunday dywedodd: Wales is not another country; it’s England with an accent and a good singing voice. But it is being pulled along by Scotland in devolution’s slipstream, whether it likes it or – more probably – not.[2]
Methodd ymuno â byddin Lloegr oherwydd ei olwg ac aeth yn ohebydd papur newydd.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Author Spotlight". Randomhouse.ca. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-06. Cyrchwyd 12 Chwefror 2011.
- ↑ [ http://www.walesonline.co.uk/news/need-to-read/2012/12/30/bbc-s-michael-buerk-dubs-wales-england-with-a-good-singing-voice-91466-32516808/#ixzz2HyyLHSFe Gwefan] Wales on Line adalwyd 14 Ionawr 2013
- ↑ Michael Buerk (2005). The Road Taken. Arrow Books. ISBN 978-0-09-946137-1.