Michael Dwyer
Newyddiadurwr a beirniad ffilm o Iwerddon oedd Michael Dwyer (2 Mai 1951 – 2 Ionawr 2010).[1] Ysgrifennodd ar gyfer yr Irish Times am dros 20 mlynedd, a chyn hynny ar gyfer y Sunday Tribune, y Sunday Press a'r cylchgrawn In Dublin.
Michael Dwyer | |
---|---|
Ganwyd | 2 Mai 1951 Tralee |
Bu farw | 1 Ionawr 2010 |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, beirniad ffilm |
Cafodd ei eni yn Tralee, Swydd Kerry. Ef oedd sylfaenydd y Gŵyl Ffilm Dulyn, a gwasanaethodd ar fwrdd Amgueddfa Celfyddyd Fodern Iwerddon tan yn fyr cyn ei farwolaeth. Ymddangosodd yn aml ar brif sioeau radio'r wlad, sef Morning Ireland a'r Marian Finucane Show. Bu farw wedi salwch byr ar 2 Ionawr 2010.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Michael Dwyer: The Irish Times film critic , The Times, News International, 21 Ionawr 2010.