Digrifwr stand-yp o Loegr ydy Michael Hazen James McIntyre (ganwyd 21 Chwefror 1976) sydd weithiau hefyd yn cyflwyno rhaglenni teledu. Yn 2012, dywedir iddo ennill mwy o gyflog nag unrhyw ddigrifwr arall, drwy'r byd.[1]

Michael McIntyre
LlaisMichael mcintyre bbc radio4 desert island discs 17 07 2011.flac Edit this on Wikidata
GanwydMichael Hazen James McIntyre Edit this on Wikidata
21 Chwefror 1976 Edit this on Wikidata
Merton Edit this on Wikidata
Man preswylHampstead Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethdigrifwr, digrifwr stand-yp, cyflwynydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
TadRay Cameron Edit this on Wikidata
PerthnasauSimon Ward, Sophie Ward Edit this on Wikidata

Yn ychwanegol i fod yn stand-yp ar lwyfannau mwya'r byd, mae ganddo hefyd ei raglen deledu ei hun: Michael McIntyre's Comedy Roadshow (BBC One) ac mae'n ymddangos yn achlysurol ar sioeau eraill ee Live at the Apollo ac ar banel beirniaid Britain's Got Talent yn 2011. Yn 2018 roedd ganddo ei gyfres deledu ar nosweithiau Sadwrn: Michael McIntyre's Big Show (BBC One).

Yn 2018 roedd McIntyre yn byw yn Hampstead, Llundain gyda'i wraig Kitty (armoatherapydd o ran ei galwedigaeth) a dau o blant. Mae Kitty'n ferch i'r actor Simon Ward ac yn chwaer i'r actores Sophie Ward.[2] The couple have two sons, Lucas and Oscar.[3]

Cefnogwr Tottenham Hotspur F.C. yw McIntyre.[4] Mae criced yn un o'i ddiddordebau eraill, ac mae wedi ymddangos ar y rhaglen Test Match Special ble roedd yn trafod y maes.[5]

Ar 1 Ebrill 1989, yn 13 oed, eisteddai McIntyre yng nghynulleidfa stiwdio Going Live (BBC); cafodd gyfle i ofyn cwestiwn i'r grwp pop Five Star. Mwynhaodd y profiad, cymaint, rhoddodd ei fryd ar fod o flaen y camera.

Rhwng 2017 a 2019 teithiodd yn perfformio ledled y byd gyda'i sioe Michael McIntyre's Big World Tour, gyda Chaerdydd yn un o'r llefydd ble'r ymddangosodd. Roedd 83 llwyfan yn ei aros, mewn 15 gwlad.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. "McIntyre is world's most successful comedian". The Daily Telegraph. London. 25 Ionawr 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-01-13. Cyrchwyd 2018-04-21.
  2. "The Tudors actor Simon Ward dies after long illness". BBC News.
  3. Gordon, Bryony (11 Tachwedd 2012). "Michael McIntyre interview: 'Maybe people just can't cope with how jovial I am'". The Daily Telegraph. telegraph.co.uk. Cyrchwyd 27 Mehefin 2016.
  4. "Comedian issues Spurs rallying call". BBC. 23 Chwefror 2008. Cyrchwyd 20 Gorffennaf 2009.
  5. "BBC Radio 5 live sports extra - Test Match Special, 18/07/2013, The Ashes: Michael McIntyre joins TMS". BBC.
  6. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-03-04. Cyrchwyd 2021-02-26.