Prifysgol Caeredin

prifysgol yn yr Alban

Prifysgol yn ninas Caeredin yn yr Alban yw Prifysgol Caeredin. Sefydlwyd ef ym 1583,[1] ac mae'n ganolfan enwog ar addysg ac ymchwil yng Nghaeredin. Hon oedd y chweched brifysgol i gael ei sefydlu ym Mhrydain Fawr, gan ei gwneud yn un o brifysgolion hynafol yr Alban a Phrydain. Mae'r brifysgol ymysg y mwyaf a'r mwyaf ei bri yn y byd, ac mae ymysg 25 prifysgol gorau'r byd.[2][3][4][5][6] Mae'n aelod o'r League of European Research Universities.

Prifysgol Caeredin
Mathprifysgol gyhoeddus, cyhoeddwr mynediad agored, ancient university Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1583 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCaeredin Edit this on Wikidata
SirDinas Caeredin Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau55.94739°N 3.18719°W Edit this on Wikidata
Cod postEH8 9YL Edit this on Wikidata
Map

Yr Esgob Robert Reid o Brifeglwys Sant Magnus, Kirkwall, Orkney, sy'n cael y credyd am sefydlu'r brifysgol. Arianwyd y brifysgol gan y gronfa a adawyd ar ei farwolaeth ym 1558. Sefydlwyd y brifysgol dan Siarter Brenhinol gan Iago VI ym 1582, gan ddod yn bedwaredd prifysgol yr Alban, pan oedd gan Loegr ond dwy. Erbyn y 18g, roedd Caeredin yn ganolfan Ewropeaidd yr Oleuedigaeth, a daeth yn un o brifysgolion pwysicaf y cyfandir. Mae'n aelod i Grŵp Coimbra ar gyfer prifysgolion Ewropeaidd.

Colegau ac Ysgolion

golygu
 
Arfbais Prifysgol Caeredin, ar Dir Sant Leonard

College of Humanities and Social Science

golygu

Coleg Meddygaeth a Milfeddygaeth

golygu

Coleg Gwyddoniaeth a Pheirianneg

golygu

Cynfyfyrwyr

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Explore University of Edinburgh - History". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-11. Cyrchwyd 2008-11-07.
  2. "Top 500 World Universities (1-100)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-06. Cyrchwyd 2008-11-07.
  3. "Good University Guide | University League Tables | University Rankings - Times Online". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-11. Cyrchwyd 2008-11-07.
  4. Univ2005~subject~subjects~Institution-wide~Institution-wide | University guide | EducationGuardian.co.uk
  5. "News and Views from The Times and Sunday Times | Times Online". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-16. Cyrchwyd 2008-11-07.
  6.  Higher Education Supplement: The Top 200 World University Rankings. The Times (2006).

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato