Michael Parkinson

Cyflwynydd teledu, newyddiadurwr ac awdur Seisnig oedd Syr Michael Parkinson CBE (28 Mawrth 193516 Awst 2023).[1] Cyflwynodd ei sioe siarad teledu Parkinson o 1971 i 1982 ac o 1998 i 2007, yn ogystal â sioeau siarad eraill yn rhyngwladol. Fe’i disgrifiwyd gan The Guardian fel “y gwesteiwr sioe siarad Prydeinig gwych”.[2]

Michael Parkinson
Ganwyd28 Mawrth 1935 Edit this on Wikidata
Cudworth Edit this on Wikidata
Bu farw16 Awst 2023 Edit this on Wikidata
Bray Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
  • Holgate School, Barnsley Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyflwynydd teledu, newyddiadurwr, ysgrifennwr, hunangofiannydd, cyflwynydd radio Edit this on Wikidata
PriodMary Parkinson Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor, CBE Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.michaelparkinson.tv/ Edit this on Wikidata

Cafodd Parkinson ei eni ym mhentref Cudworth, ger Barnsley, Swydd Efrog. Yn fab i löwr,[3] cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Barnsley ac yn 1951 pasiodd ddwy Lefel O, mewn celf ac iaith Saesneg. Roedd yn gricedwr dros Nghlwb Criced Barnsley, gyda'i ffrind Dickie Bird.[4] [5]

Dechreuodd Parkinson ei yrfa fel awdur erthyglau nodwedd i'r Manchester Guardian ac yn ddiweddarach ar y Daily Express. [2] Ar ol ei ddwy flynedd o Wasanaeth Cenedlaethol, derbyniodd gomisiwn fel swyddog yn y Royal Army Pay Corps.[6]

Teledu golygu

Yn ystod y 1960au, bu Parkinson yn gweithio ar raglenni materion cyfoes i'r BBC a Granada Television. Roedd e'n cyflwynydd y rhaglen gylchgrawn newyddion dyddiol ''24 Hours'' ar BBC1 o 1966 [7] hyd at 1968.[8] O 1969 cyflwynodd Cinema, rhaglen adolygu ffilm hwyr y nos a Granada[6] , cyn ym mis Gorffennaf 1971 cyflwyno ei gyfres BBC Parkinson, gan adael y BBC ar gyfer ITV1 hanner ffordd drwy'r ail rediad a ddaeth i ben ar ôl 31 cyfres. Roedd wedi cyfweld â 2,000 o enwogion y byd.[9] Roedd Parkinson yn un o'r "Famous Five" ar y teledu yn y bore ym 1983, gydag Angela Rippon, Anna Ford, David Frost a Robert Kee.[10]

Ar 26 Mehefin 2007, cyhoeddodd Parkinson ei fod yn ymddeol ar ôl 25 mlynedd o wneud ei sioe siarad.[11] Ar 22 Awst 1959, priododd Mary Agnes Heneghan, a hanai o Doncaster. Bu iddynt dri o blant. Yn y 1970au, ymgyrchodd Parkinson i gefnogi rheolaeth geni, ar ôl cael fasectomi ym 1972 . [12]

Gwnaethpwyd Parkinson yn Farchog Baglor yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2008; dwedodd nad oedd "y math i gael urdd marchog" yn dod o Barnsley.[13]

Ar 11 Tachwedd 2008, daeth yn Ganghellor cyntaf Prifysgol Nottingham Trent.[14]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Sir Michael Parkinson, broadcaster who won the nation's affections with his long-running chat show – obituary". The DailyTelegraph (yn Saesneg). 17 Awst 2023. ISSN 0307-1235. Cyrchwyd 17 Awst 2023.
  2. 2.0 2.1 Hattenstone, Simon (24 Chwefror 2012). "Saturday interview: Michael Parkinson". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Mehefin 2012.
  3. "Sir Michael Parkinson: Feature Interview – The Bottom Line" (yn Saesneg). thebottomlinetv.com.au. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Mawrth 2015. Cyrchwyd 13 Mawrth 2015.
  4. Parkinson, Michael (2008). Parky (yn Saesneg). Hodder & Stoughton. ISBN 978-0-340-96166-7.
  5. Armstrong, Kathryn (17 Awst 2023). "Yorkshire pays tribute to Sir Michael Parkinson". Great British Life (yn Saesneg). Cyrchwyd 17 Awst 2023.
  6. 6.0 6.1 "biography" (yn Saesneg). Screenonline. Cyrchwyd 3 Mehefin 2012.
  7. "Broadcast – BBC Programme Index". genome.ch.bbc.co.uk (yn Saesneg). 14 Mawrth 1966.
  8. "Broadcast – BBC Programme Index". genome.ch.bbc.co.uk (yn Saesneg). 26 Ionawr 1968.
  9. "Sydney Morning Herald: How to talk to anyone in the world" (yn Saesneg). Smh.com.au. 2 June 2003. Cyrchwyd 3 Mehefin 2012.
  10. "TV-am Presenters". www.tv-am.org.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 17 Awst 2023.
  11. Pidd, Helen (27 Mehefin 2007). "After 25 years, Parkinson retires again". The Guardian (yn Saesneg). London. Cyrchwyd 1 Medi 2010.
  12. Bennett, Stephanie, "A Present for Mrs Parkinson", Cosmopolitan (UK), issue 1, Mawrth 1972. (Saesneg)
  13. "Parkinson bows out with honour". BBC News (yn Saesneg). 29 Rhagfyr 2007. Cyrchwyd 3 Mehefin 2012.
  14. "Sir Michael Parkinson Appointed as First Chancellor" (yn Saesneg). Ntu.ac.uk. 29 Gorffennaf 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Ebrill 2009. Cyrchwyd 3 Mehefin 2012.