Michael Roberts
gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Pregethwr ac athro o Gymro oedd y Parch. Michael Roberts (1780 – 29 Ionawr 1848).[1]
Michael Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 1780 Llanllyfni |
Bu farw | 29 Ionawr 1849 |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl |
Cafodd Roberts ei eni yn Llanllyfni. Yr oedd yn nai i Robert Roberts, Clynnog. Ym 1802 symudodd i Bwllheli a bu'n gofalu am ysgol. Urddwyd ef yn 1814 ar ôl pregethu am rai blynyddoedd. Ym 1836 cafodd chwalfa feddyliol. Bu farw yn 68 oed.
Ei fywyd yw testun y nofel Mical gan Owain Owain a gyhoeddwyd ym 1976.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Richard Thomas. "Roberts, Michael (1780-1849), Pwllheli, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 27 Mai 2024.
- ↑ "Owain Owain". Cyngor Tref Pwllheli. Cyrchwyd 27 Mai 2024.