Robert Roberts, Clynnog

pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd (1762 -1802)

Roedd Robert Roberts (12 Medi 176228 Tachwedd 1802) yn bregethwr amlwg gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ar ddiwedd y 18 ganrif.[1]

Robert Roberts, Clynnog
Ganwyd12 Medi 1762 Edit this on Wikidata
Nantlle Edit this on Wikidata
Bu farw28 Tachwedd 1802 Edit this on Wikidata
Clynnog Fawr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpregethwr Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Roberts yn y Ffridd, Baladeulyn, plwyf Llanllyfni, Sir Gaernarfon. Roedd yr ieuengaf o 13 o blant Robert Thomas, gweithiwr copr, a Catherine Jones ei wraig. (Nodyn Nid cyfenw yn y dull Saesneg mo Roberts ond Seisnigiad o'r traddodiad enwi Cymreig "Robert mab Robert", oedd Robert Roberts, "Robert mab Thomas" oedd ei dad a "Catherine ferch John" oedd ei fam). Roedd y Parch John Roberts, Llangwm, yn frawd hynaf iddo.[2] Roedd Robert Thomas a Catherine Jones wedi dod o dan ddylanwad y Methodistiaid cyn geni Robert gan agor eu tŷ i bregethwyr teithiol cael cynnal oedfaon. Cynhaliwyd dosbarthiadau nos ac ysgol Sul yn eu cartref hefyd er mwyn dysgu darllen y Beibl. Mae'n debyg mae dyna fyddai cyfanswm addysg ffurfiol Roberts yn ei ieuenctid.[3]

Tröedigaeth golygu

Ymunodd Robert â chymdeithas Methodistiaid Llanllyfni pan oedd tua 7 mlwydd oed o dan anogaeth John, ei frawd. Ond erbyn tyfu'n laslanc yn ei arddegau collodd diddordeb yn y bywyd crefyddol ac wedi dechrau mwynhau pleserau'r byd. Tua 1778 bu David Jones Llan-gan ar daith pregethu trwy rannau o Sir Gaernarfon. Roedd y daith yn cynnwys ymweliad a chapel Brynrodyn, Y Groeslon [4]. Gymaint oedd y dorf a daeth i wrando ar y pregethwr mawr fel y bu'n rhaid cynnal y gwasanaeth yn yr awyr agored. Roedd criw o laslanciau direidus wedi ymgasglu ar boncyn y tu ôl i'r pregethwr gyda'r bwriad o'i wawdio, roedd Robert Roberts yn eu plith. Cafodd pregeth Jones Llan-gan effaith mawr arno a bu mewn cyfyng gyngor ysbrydol am dridiau cyn mynd at John ei frawd am gyngor. Wedi myfyrio a gweddïo gyda John, cysegrodd Robert ei fywyd at wasanaethu'r Iesu.[5]

Gyrfa golygu

 
Tŷ Capel Ebeneser Clynnog

Cyn ei dröedigaeth bu Robert yn gweithio fel chwarelwr mewn chwarel leol o'r enw Cilycwm. Wedi ei dröedigaeth penderfynodd beidio dychwelyd i'r chwarel rhag iddo gael ei dynnu'n ôl i'w hen fywyd afradlon gan ei gyfeillion yno.[3] Symudodd i Eifionydd lle fu'n gweithio fel gwas ar fferm o'r enw Cefn Pencoed rhwng Llangybi a Rhoslan yn Eifionydd. Ymunodd â seiat Capel Brynengan, Llangybi. Wedi pum mlynedd yng Nghefn Pencoed symudodd i fferm gyfagos o'r enw Cae Hir lle fu am flwyddyn ac oddi yno aeth i wasanaethu fel pen gwas Coed Cae Du. Roedd Coed Cae Du yn cael ei ffermio gan John Prichard, tad y gweinidog a'r Emynydd Richard Jones (Cymro Gwyllt).[6] Tra yng Nghoed Cae Du dechreuodd dioddef o gryd cymalau ac aeth ei gefn yn grwm.[7]

 
Ffridd, Baladeulyn

Oherwydd anabledd a achoswyd gan ei nam corfforol bu'n rhaid i Robert rhoi'r gorau i waith corfforol y gwas ffarm. Cafodd bwthyn ar osod gan John Prichard o'r enw Ynys Galed, lle fu'n cadw ysgol Cymraeg dyddiol. Bu hefyd yn mynychu ysgol oedd yn cael ei gadw ym Mrynengan gan Evan Richardson [8] er mwyn dysgu digon o Saesneg i allu darllen gweithiau diwinyddol yn yr iaith honno. Dechreuodd pregethu ar y Sul tua'r un pryd a daeth yn bregethwr poblogaidd iawn yn yr ardal gyda nifer fawr o alwadau am ei wasanaeth. Yn 1794, a’i iechyd yn fregus, cynghorodd Cyfarfod Misol Arfon ef i roi’r gorau i gadw ysgol ac ymroi yn llwyr i bregethu. Fe’i hwyluswyd i wneud hynny trwy ei wahodd i ymgartrefu yn Nhŷ’r Capel, Capel Ebeneser a gofalu am yr eglwys yno. Yno y bu'n fyw am weddill ei oes.[9]

Roedd galwadau ar Robert i bregethu ym mhob rhan o Gymru, bu hefyd ar deithiau bregethu yn Lloegr a'r Alban.[5] Fel pregether roedd yn cael ei ddisgrifio fel llefarwr croyw gyda dawn areithio aruthrol. Roedd yn ddramatig iawn wrth gyhoeddi'r neges a bu ei bregethau yn llawn sylwadau bachog.[1]

Teulu golygu

Priododd tua 1786 ag Elinor Hughes, merch o'r gymdogaeth. Bu iddynt dau o blant.

Marwolaeth golygu

 
Bedd Robert Roberts Clynnog

Bu farw yn Nhŷ Capel, Clynnog yn 40 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys St Beuno, Clynnog Fawr.[10]

Llyfryddiaeth golygu

  • Y Tadau Methodistaidd : eu llafur a'u llwyddiant gyda gwaith yr efengyl yn Nghymru, Trefydd Lloegr, America, ac Awstralia, ynghyd a nifer mawr o ddarluniau o bersonau a lleoedd nodedig; Morgan Jones, John a Morgan, William, Dowlais Cyf 2 Pennod 23 tud 34-53 (Copi rhad ar lein)
  • Cofiant a phregethau y Parchedig Robert Roberts, Clynnog, dan olygiad Griffith Parry (Copi rhad ar lein)
  • Robert Roberts : y seraff bregethwr : portread / gan Emyr Roberts.
  • Y seraff annwyl : llythyrau Robert Roberts, Clynnog ; golygwyd, gyda rhagymadrodd a nodiadau, gan E. Wyn James; Llyfrgell Efengylaidd Cymru (1976)

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "ROBERTS, ROBERT (1762 - 1802), pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-09-02.
  2. "ROBERTS, JOHN (1753 - 1834), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-09-02.
  3. 3.0 3.1 Morgan Jones, John; Morgan, William (1895). Y tadau Methodistaidd : eu llafur a'u llwyddiant gyda gwaith yr efengyl yn Nghymru, Trefydd Lloegr, America, ac Awstralia, ynghyd a nifer mawr o ddarluniau o bersonau a lleoedd nodedig. Pitts Theology Library Emory University. Abertawe : L. Evans.
  4. "BRYNRODYN WELSH CALVINISTIC METHODIST CHAPEL, GROESLON, DOLYDD;BRYN'RODYN | Coflein". www.coflein.gov.uk. Cyrchwyd 2019-09-02.
  5. 5.0 5.1 Cofiant a phregethau y parchedig Robert Roberts, Clynnog, dan olygiad y G. Parry.
  6. "JONES, RICHARD ('o'r Wern'; 1772? - 1833), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a llenor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-09-02.
  7. "Robert Roberts Clynnog — the hunchback preacher (1762-1802) | Evangelical Times". www.evangelical-times.org. Cyrchwyd 2019-09-02.
  8. "RICHARDSON, EVAN (1759 - 1824), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac ysgol-feistr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-09-02.
  9. "Gwefan Swyddogol Dyffryn Nantlle > Hanes Pentref Clynnog Fawr > Robert Roberts". www.nantlle.com. Cyrchwyd 2019-09-02.
  10. "Rev Robert Roberts". Find a grave - Memorial. Cyrchwyd 2 Medi 2019.