Mical
Disgrifir y nofel Mical, gan Owain Owain, a gyhoeddwyd yn Nhachwedd 1976 gan Wasg Gomer fel "cofiant dychmygol" o'r Parch Michael Roberts, Pwllheli. Yn 1977, enillodd y gyfrol wobr Llyfr y Flwyddyn a gwobr ariannol o £300 gan Gyngor Llyfrau Cymru yn 1977. Rhif SBN: 85088411 X.[1][2]
Math | llyfr, nofel |
---|---|
Cyhoeddwr | Gwasg Gomer |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1976 |
Hanes y Parch Michael Roberts (1790-1849) yw'r nofel, gŵr a ddisgrifir fel "un o bregethwyr blaenaf ei oes" ym mroliant y llyfr (clawr cefn). Yn y cyflwyniad (tudalen 131), dywed yr awdur iddo ddefnyddio copi o gofiant cynharach o Roberts sef Cofiant y Parch. Michael Roberts a gafodd yn anrheg gan ei fam, i lunio'r nofel. Roedd gan yr awdur hefyd hen feibl merch Michael Roberts, sef Hannah, a dderbyniodd gan ei thad ar ddydd ei phriodas. Mae'r gwleidydd Dafydd Wigley'n perthyn i'r Parch Michael Roberts drwy ei fam a oedd a'i gwreiddiau ym Mhwllheli.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ cyngortrefpwllheli.cymru; adalwyd 17 Mai 2024.
- ↑ goodreads.com; adalwyd 17 Mai 2024.