Michaela DePrince
Roedd Michaela Mabinty DePrince (ganwyd Mabinty Bangura; 6 Ionawr 1995 - 10 Medi 2024) [1] yn ddawnsiwr bale o Sierra Leone a ddawnsiodd gyda'r Boston Ballet yn yr Unol Daleithiau.
Michaela DePrince | |
---|---|
Ffugenw | Michaela DePrince |
Ganwyd | 6 Ionawr 1995 Kenema |
Bu farw | 10 Medi 2024 Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Sierra Leone UDA |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dawnsiwr bale, hunangofiannydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | OkayAfrica 100 Benyw |
Gwefan | https://michaeladeprince.com/ |
Daeth DePrince yn enwog ar ôl serennu yn y rhaglen ddogfen First Position yn 2011, a ddilynodd hi a dawnswyr bale ifanc eraill. Yn 2013, dawnsiodd DePrince gyda Theatr Ddawns Harlem fel y dawnsiwr ieuengaf yn hanes y cwmni.
Gyda’i mam fabwysiadol, Elaine DePrince, ysgrifennodd y llyfr Taking Flight: From War Orphan to Star Ballerina (2014).
Cafodd ei geni fel Mabinty Bangura[2][3][4] i deulu Mwslimaidd yn Kenema, Sierra Leone.[5][6] Cafodd ei magu yn amddifad ar ôl i'w hewythr ddod â hi i gartref plant amddifad yn ystod y rhyfel cartref. Cafoedd ei thad ei saethu a’i ladd gan y Ffrynt Unedig Chwyldroadol pan oedd hi'n dair oed, a llwgodd ei mam i farwolaeth yn fuan wedyn.[5] Aeth hi i wersyll ffoaduriaid ar ôl i'w chartref plant amddifad gael ei fomio.[5]
Ym 1999, yn bedair oed,[7] mabwysiadwyd hi a merch arall, hefyd o'r enw Mabinty, a gafodd yr enw Mia yn ddiweddarach, gan Elaine a Charles DePrince, cwpl o Cherry Hill, New Jersey, a'u cludo i'r Unol Daleithiau.[5][8]
Cyhoeddwyd ei marwolaeth yn 29 oed ar 13 Medi 2024 trwy ei thudalen Instagram.[9][2] Bu farw ar 10 Medi, ddiwrnod cyn marwolaeth ei mam Elaine.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Pikora, Jillian (September 14, 2024). "Michaela DePrince's Mother Elaine Died Day After Daughter". Daily Voice. Cyrchwyd 2024-09-15.
- ↑ 2.0 2.1 Walker, Adria R. (September 13, 2024). "Trailblazing ballerina Michaela Mabinty DePrince dies at 29". The Guardian. Cyrchwyd September 13, 2024.
- ↑ Fuhrer, Margaret (20 March 2012). "Michaela DePrince". Dance Spirit magazine. Cyrchwyd 24 Gorffennaf 2012.
- ↑ DePrince, Michaela; Elaine, DePrince (2014). Taking Flight: From War Orphan To Star Ballerina. New York: Alfred A. Knopf. t. 75. ISBN 978-0-385-75513-9.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 Smith, David (16 Gorffennaf 2012). "Sierra Leone war orphan returns to Africa en pointe for ballet debut". The Guardian. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Gorffennaf 2012. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2012.
- ↑ Kuperinsky, Amy (13 Medi 2024). "Ballet star Michaela DePrince dead at 29. Dancer with remarkable story had beginnings in N.J." NJ.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-14.
- ↑ Petesch, Carley (11 Gorffennaf 2012). "Star dancer born into war grows up to inspire". Associated Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Gorffennaf 2012. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2012.
- ↑ Marquis, Cate, "Ballet documentary defies stereotypes", STL Jewish Light, 16 Mai 2012.
- ↑ "In Memoriam Michaela DePrince | Nationale Opera & Ballet". www.operaballet.nl (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-13.