Mae Instagram (a dalfyrrir yn gyffredin i IG neu Insta ) [1] yn wasanaeth rhwydweithio cymdeithasol Americanaidd sydd yn galluogi ei ddefnyddwyr i rannu lluniau a fideos.
Enghraifft o'r canlynol | gwasanaeth rhwydweithio cymdeithasol, gwefan, gwasanaeth cynnal delweddau, gwasanaeth cynnal fideos, cymuned arlein, very large online platform, publishing platform |
---|---|
Crëwr | Kevin Systrom, Mike Krieger |
Iaith | ieithoedd lluosog |
Dyddiad cyhoeddi | 6 Hydref 2010 |
Dechrau/Sefydlu | 6 Hydref 2010 |
Perchennog | Meta Platforms |
Statws hawlfraint | dan hawlfraint |
Sylfaenydd | Kevin Systrom, Mike Krieger |
Rhiant sefydliad | Meta Platforms |
Pencadlys | San Francisco |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Dosbarthydd | Microsoft Store, Google Play, App Store |
Gwefan | https://www.instagram.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r gwasanaeth hwn yn eiddo i Facebook ac fe'i grewyd gan Kevin Systrom a Mike Krieger. Lansiwyd yn wreiddiol ar iOS ym mis Hydref 2010. Cyhoeddwyd y fersiwn Android ym mis Ebrill 2012, ac yna i ddilyn yn Nhachwedd 2012 cyhoeddwyd rhyngwyneb gwe â nodweddion cyfyngedig. Ym mis Mehefin 2014, daeth yr ap Fire OS, ac yna ap ar gyfer Windows 10 ym mis Hydref 2016. Mae'r ap yn caniatáu i ddefnyddwyr uwchlwytho cyfryngau y gellir eu golygu â hidlwyr a'u trefnu gan ddefnyddio hashnodau a thagio daearyddol. Gellir rhannu postiau yn gyhoeddus neu â dilynwyr sydd wedi eu cymeradwyo eisoes. Gall defnyddwyr bori cynnwys defnyddwyr eraill drwy ddefnyddio tagiau a lleoliadau a gweld cynnwys poblogaidd. Gall defnyddwyr hoffi lluniau a dilyn defnyddwyr eraill i ychwanegu cynnwys i'w ffrwd. Ymddengys fod y nodwedd hwn wedi dod i ben fis Medi 2020.
Yn wreiddiol, roedd Instagram yn adnabyddus am y nodwedd o fframio lluniau mewn cymhareb agwedd sgwar (1:1) yn unig gyda 640 picsel i gyd-fynd â lled sgrin iPhone ar y pryd. Yn 2015, cafodd y cyfyngiadau eu llacio, gan gynyddu swm y picseli i 1080. Ychwanegodd y gwasanaeth nodwedd anfon negeseuon yn ogystal â'r gallu i gynnwys nifer o lluniau o fideos mewn un post. Ychwanegwyd nodwedd Storiau - yn debyg iawn i'w brif wrthwynebydd sef Snapchat - sydd yn caniatáu i ddefnyddwyr bostio lluniau a fideos i'w ffrwd. Mae bob un post ar gael i eraill am 24 awr. Ym mis Ionawr 2019, cyfrifwyd bod y nodwedd Storiau yn cael ei ddefnyddio gan 500 miliwn o ddefnyddwyr yn ddyddiol.
Hanes
golyguAr ôl ei lansio yn 2010, daeth Instagram yn gynyddol boblogaidd, gyda miliwn o ddefnyddwyr wedi'u cofrestru o fewn dau fis, 10 miliwn mewn blwyddyn, a 1 biliwn ym Mehefin 2018. Yn Ebrill 2012, prynodd Facebook y gwasanaeth am oddeutu US $1 biliwn o arian parod a stoc. O fis Hydref 2015, roedd dros 40 biliwn o luniau wedi'u huwchlwytho. Er iddo gael ei ganmol am ei ddylanwad, mae Instagram wedi bod yn destun beirniadaeth, yn fwyaf arbennig am newidiadau polisi a rhyngwyneb, honiadau o sensoriaeth, a chynnwys anghyfreithlon neu amhriodol a uwchlwythwyd gan ddefnyddwyr.
Datblygwyd Instagram yn y lle cyntaf yn San Francisco fel Burbn, ap nodi lleoliad symudol a grëwyd gan Kevin Systrom a Mike Krieger.[2] Gan sylweddoli bod Burbn yn rhy debyg i Foursquare, canolbwyntiodd Systrom a Krieger eu ap ar rannu lluniau, a oedd wedi dod yn nodwedd boblogaidd ymhlith defnyddwyr Burbn.[3] Fe wnaethant ailenwi ap Instagram gan ddefnyddio cyfuniad o'r geiriau "instant camera" a "telegram".
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Edwards, Erica B.; Esposito, Jennifer (2019). "Reading social media intersectionally". Intersectional Analysis as a Method to Analyze Popular Culture: Clarity in the Matrix. Futures of Data Analysis in Qualitative Research. Abingdon: Routledge. ISBN 9780429557002. Cyrchwyd May 7, 2020.
Instagram (IG) is a photo sharing app created in October of 2010 allowing users to share photos and videos.
- ↑ Lagorio, Christine (Mehefin 27, 2011). "Kevin Systrom and Mike Krieger, Founders of Instagram". Inc. Cyrchwyd Hydref 4, 2011.
- ↑ Sengupta, Somini; Perlroth, Nicole; Wortham, Jenna (Ebrill 13, 2012). "Behind Instagram's Success, Networking the Old Way". The New York Times. Cyrchwyd Ebrill 12, 2017.