Michel de Montaigne

athronydd o Ocsitania

Awdur o Ffrainc oedd Michel Eyquem de Montaigne (28 Chwefror 153313 Medi 1592). Ei waith enwocaf yw'r Essais ('Traethodau'), cyfres hir o fyfyrdodau, mewn tair cyfrol, sy'n ymdreiddio i natur y meddwl dynol ac yn rhoi portread cofiadwy o'r awdur ei hun dros y blynyddoedd. Daethant yn boblogaidd iawn a chyhoeddwyd dros gant o argraffiadau. Ar sawl ystyr, yr Essais oedd sail blodeuo athroniaeth yn Ffrainc yn yr 17g a arweiniodd yn ei dro at Oleuedigaeth y 18g.

Michel de Montaigne
Ganwyd28 Chwefror 1533 Edit this on Wikidata
Saint-Michel-de-Montaigne Edit this on Wikidata
Bu farw13 Medi 1592 Edit this on Wikidata
Saint-Michel-de-Montaigne Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Ffrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • College of Guienne
  • Prifysgol Toulouse Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, cyfieithydd, cyfreithegwr, awdur ysgrifau, hunangofiannydd, gwleidydd, bardd-gyfreithiwr, moesolwr Ffrengig, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
SwyddMaer Bordeaux Edit this on Wikidata
Adnabyddus amEssays Edit this on Wikidata
TadPierre Eyquem de Montaigne Edit this on Wikidata
PriodFrançoise de La Chassaigne Edit this on Wikidata
PerthnasauJean de Ségur Edit this on Wikidata
llofnod

Cafodd ei eni yn y château de Montaigne yn Périgord, yn fab i Pierre Eyquem, maer Bordeaux, Aquitaine. Cyfaill y bardd Étienne de la Boétie oedd ef. Bu farw Boétie yn 1563 a phriododd Montaigne ei weddw yn 1565.

Llyfryddiaeth golygu

  • Essais (1580)

Gweler hefyd golygu


   Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrancwr neu Ffrances. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.