Prifysgol Bordeaux III

prifysgol yn Bordeaux, Ffrainc

Prifysgol Ffrengig ydy Prifysgol Bordeaux Montaigne (Ffrangeg: Université Michel de Montaigne Bordeaux III) a leolir ar gyrion Bordeaux, Aquitaine, yn ne-orllewin Ffrainc. Mae'r brifysgol yn un o bum prifysgol sy'n ffurfio cymuned o brifysgolion ardal Aquitaine. Y prif feysydd astudio ydy ieithoedd, hanes, daearyddiaeth a’r celfyddydau. Mae 15,600 fyfyrwyr wedi'u cofrestru yno. Fe'i henwir ar ôl y llenor Michel de Montaigne (1533-92).

Prifysgol Bordeaux III
Mathprifysgol yn Ffrainc Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlMichel de Montaigne Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1971 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau44.79529°N 0.616361°W Edit this on Wikidata
Map

Creadigaeth

golygu

Crëwyd Prifysgol Bordeaux III ym 1971 ar ôl penderfyniad i wahanu'r brifysgol i mewn i dair rhan. Roedd gwreiddiau'r brifysgol wreiddiol yn hanu'n ôl i'r flwyddyn 1441.

Llywyddion y Brifysgol

golygu

Cyfansoddiad y Brifysgol

golygu

Tan 2010, ffurfiwyd y brifysgol yn ôl nifer o UFR (Ffrangeg: Unité de formation et de recherche) (Cymraeg: Uned Addysgu ac Ymchwilio). Dyma oedd y gwahanol UFR: y celfyddydau, astudiaethau Almaenaidd a Llychlynnaidd, astudiaethau Iteraidd ac Ibero-Americanaidd, daearyddiaeth, hanes, hanes celf ac archeoleg, sefydliad gwyddorau cyfathrebiad, ieithoedd tramor ac ieithoedd tramor gymwysedig, gwledydd Saesneg eu hiaith, ac athroniaeth.

Ers Hydref 2010, serch hynny, cwtogwyd y nifer o UFR i dri, sef "Y Dyniaethau," "Ieithoedd a Gwareiddiad," a "Gwyddorau'r tiroedd a chyfathrebiad."[3]

Lleoliad

golygu

Lleolir y brifysgol a'i holl adnoddau addysgol ym mharth Pessac Talence Gradignan. Mae gwasanaeth dram yn rhedeg i'r brifysgol bob dydd. Llinell B sydd yn mynd i'r brifysgol, a'r orsaf agosaf at y brifysgol yw gorsaf Montaigne Montesquieu.

Mae cangen o'r brifysgol yn nhref Agen yn ogystal.

Arweiniad

golygu

Arweinydd a Llywydd y brifysgol yw'r bonwr Patrice Brun, athro Hanes Groeg yr Henfyd.

Dirprwyon:

  • Jean-Paul Jourdan, athro hanes cyfoes.
  • Jean-Yves Coquelin, darlithiwr celf y llwyfan.
  • Patrick Baudry, athro cymdeithaseg.

Addysg

golygu

Cynigir 34 gwahanol radd yn y brifysgol (gyda'r cyfle i arbenigo mewn un neu ddau o 17 gwahanol iaith), 59 meistrolaeth, 26 doethuriaeth, a dysgir 23 o ieithoedd.

Gradd Is-raddedig

golygu

Gellir astudio gradd yn un o'r meysydd a ganlyn yn Bordeaux 3:

  • Gwyddorau Dynol a Chymdeithasol
    • Daearyddiaeth
    • Hanes, hanes celf, archeoleg
    • Athroniaeth
  • Ieithoedd, Llenyddiaeth a Chelfyddydau
    • Y Celfyddydau
    • Ieithoedd, Llenyddiaeth a Gwareiddiad Estron
    • Ieithoedd estron gymwysedig
    • Ieithyddiaeth

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Ffrangeg) Patrice BRUN - Educpros.fr. Adalwyd ar 19 Tachwedd 2010.
  2. (Ffrangeg) SINGARAVELOU - Educpros.fr. Adalwyd ar 19 Tachwedd 2010.
  3. (Ffrangeg) Unités de formation, de recherche et départements - Université Bordeaux 3. Adalwyd ar 20 Tachwedd 2010.

Dolenni allanol

golygu