Y Migneint
Ardal o ucheldir yng ngogledd-orllewin Cymru yw'r Migneint. Mae'n ymestyn ar hyd ardal eang rhwng Llan Ffestiniog, Ysbyty Ifan a Llyn Celyn, y ddwy ochr i'r ffordd B44407 rhwng Llan Ffestiniog ac Ysbyty Ifan. Mae'n cael ei rannu rhwng Sir Conwy a Gwynedd gyda'r rhan fwyaf ohono yng Ngwynedd.
Math | ucheldir |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.9689°N 3.8187°W |
Mae'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig sy'n rhan o Ardal Gadwraeth Arbennig "Migneint-Arenig-Dduallt", sydd hefyd yn cynnwys Arenig Fawr a'r Dduallt. Un rheswm am hyn yw ei fod yn fangre nythu bwysig i nifer o adar prin, megis y Boda tinwyn, y Cudyll bach a'r Cwtiad aur. Ar un adeg roedd saethu'r Grugiar yn bwysig yma, ond mae'r niferoedd o'r rhywogaeth yma wedi gostwng yn sylweddol. Corsiog yw'r tir gan mwyaf, gyda grug yn tyfu yn y rhannau sychaf. Mae Afon Conwy yn tarddu yma, o Lyn Conwy.
Yn ystod Oes yr Iâ, ardal y Migneint oedd canolbwynt y rhew yng ngogledd Cymru, gyda rhewlifoedd yn deillio ohono i sawl cyfeiriad.