Miguel Alemán Valdés
Gwleidydd o Fecsico oedd Miguel Alemán Valdés (29 Medi 1902 – 14 Mai 1983) a fu'n Arlywydd Mecsico o 1946 i 1952.
Miguel Alemán Valdés | |
---|---|
Ganwyd | 27 Medi 1900 Sayula de Alemán |
Bu farw | 14 Mai 1983 Dinas Mecsico |
Dinasyddiaeth | Mecsico |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr, diplomydd |
Swydd | Arlywydd Mecsico, Governor of Veracruz, gweinidog, Aelod o Senedd Mecsico |
Plaid Wleidyddol | Plaid Chwyldroadol Genedlaethol |
Tad | Miguel Alemán González |
Priod | Beatriz Velasco |
Plant | Miguel Alemán Velasco |
Gwobr/au | Uwch-Groes Urdd Isabel la Católica, honorary citizen of New York, Honorary Doctorate from the National Autonomous University of Mexico |
Ganwyd yn Sayula yn nhalaith Jalisco, yn fab i ddyn siop. Astudiodd y gyfraith ac aeth i drin y gyfraith yn Ninas Mecsico, ac yn arbenigo ar achosion llafur. Fe'i penodwyd yn seneddwr dros Veracruz, a daeth yn llywodraethwr y dalaith honno yn 1936. Gwasanaethodd yn weinidog mewnwladol yn llywodraeth yr Arlywydd Manuel Ávila Camacho.[1]
Etholwyd Alemán yn Arlywydd Mecsico yn 1946, ar ran y Partido Revolucionario Institucional (PRI). Ildiodd yr arlywyddiaeth i Adolfo Ruiz Cortines yn 1952. Bu farw yn Ninas Mecsico yn 80 oed.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Miguel Alemán. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Medi 2019.