Seiclwr a dyluniwr beiciau o Loegr oedd Mike Burrows (19432022)[1]. Fe'i adnabyddir orau am ddyluniad beic treial amser a gynhyrchwyd gan Lotus ar gyfer Chris Boardman, ond cyfranodd hefyd tuag at ddyluniad beic ar gyfer Graeme Obree.

Mike Burrows
Ganwyd1943 Edit this on Wikidata
Bu farw15 Awst 2022 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethpeiriannydd, seiclwr cystadleuol Edit this on Wikidata
Gwobr/auMark Weiser Award Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Roedd Burrows wedi ymwneud â byd beiciau a threiciau gorweddol am amser hir, gan ddylunio'r Speedy neu'r Windcheetah ac yn fwy diweddar, y Ratcatcher[2], Ratracer a'r Ratracer B.

Roedd hefyd wedi ymwneud â seiclo gwasanaethol, ac wedi dylunio beic plygu (y Giant 'Halfway'), peiriant arbennig o denau (y 2D) sy'n cymryd ychydig iawn o le yn y cyntedd, a beic llwytho (yr 8-Freight) ar gyfer eu defnyddio gan gwmnioedd tywyswyr beic megis Outspoken.[3]

Yn yr 1990au, gweithiodd Mike i gwmni Giant Bicycles a cynlluniodd ffram compact beic ffordd y TCR ymysg eraill.

Roedd cynlluniau Burrows yn aml yn cynnwys nodwedd olwynion cantilifer ar grog. Cyflwynodd feic gyda fforch llafn-mono i'r cyflwynwr teledu gwyddoniaeth Adam Hart-Davis, ac ymddangosodd y beic yn ei raglenni. Roedd Hart-Davis hefyd yn berchen ar Speedy, wedi ei baentio yn binc a melyn.

Roedd Mike yn byw yn Norwich. Ysgrifennodd y llyfrau Bicycle Design: Towards the Perfect Machine (ISBN 1-898457-07-7) a From Bicycle to Superbike (ISBN 0953617459).

Cyfeiriadau

golygu
  1. Bailey, Mark. "The bike man: Remembering Mike Burrows, 1943–2022". Cyclist. Cyrchwyd 15 August 2022.
  2. Ratcatcher
  3. Outspoken

Dolenni allanol

golygu