Mike Nesmith
sgriptiwr ffilm a aned yn Houston yn 1942
Cerddor o'r Unol Daleithiau oedd Robert Michael Nesmith (30 Rhagfyr 1942 – 10 Rhagfyr 2021) sy'n fwyaf adnabyddus fel aelod o'r band pop y Monkees a chyd-seren y cyfres deledu The Monkees (1966–1968). Cyfansoddwr caneuon, dyn busnes, a dyngarwr oedd Nesmith. Ysgrifennodd y caneuon " Different Drum " (wedi'i recordio gan Linda Ronstadt gyda'r Stone Poneys ) a "Listen to the Band".
Mike Nesmith | |
---|---|
Ganwyd | 30 Rhagfyr 1942 Houston |
Bu farw | 10 Rhagfyr 2021 Carmel Valley Village |
Dinasyddiaeth | UDA |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, nofelydd, sgriptiwr, actor ffilm, actor llwyfan, actor teledu, gitarydd, cyfansoddwr caneuon, canwr-gyfansoddwr, cynhyrchydd ffilm, cyfansoddwr, cyfarwyddwr ffilm |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, canu gwlad, Canu gwerin, roc seicedelig, roc poblogaidd |
Mam | Bette Nesmith Graham |
Gwobr/au | Gwobr Grammy |
Cafodd Nesmith ei eni yn Houston, Texas, yn fab i Warren a Bette Nesmith (née McMurray). Roedd Bette yn ysgrifenyddes a ddaeth yn fenyw fusnes lwyddiannus ar ôl dyfeisio "Liquid Paper".[1]
Roedd Mike Nesmith yn briod deirgwaith. Ei fab hynaf yw'r cerddor Christian Nesmith. Bu farw yn 78 oed.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Bette Nesmith Graham: Liquid Paper Inventor". Women-inventors.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Ebrill 2012.
- ↑ Greene, Andy. "Michael Nesmith, Monkees singer-songwriter, dead at 78". Rolling Stone (yn Saesneg). Cyrchwyd 10 Rhagfyr 2021.