The Monkees
Band roc a pop oedd The Monkees a fu'n weithgar yn wreiddiol rhwng 1966 ac 1971, gyda aduniad a theithiau yn y degawdau wedi hynny. Fe'i ffurfiwyd yn Los Angeles yn 1965 gan Bob Rafelson a Bert Schneider yn benodol ar gyfer y gyfres teledu Americanaidd The Monkees, a ddarlledwyd rhwng 1966 a 1968. Y pedwarawd o actorion cerddorol oedd yr Americanwyr Micky Dolenz, Michael Nesmith, a Peter Tork; a'r canwr ac actor Seisnig Davy Jones. Goruchwyliwyd cerddoriaeth y band yn wreiddiol gan Don Kirshner, gyda chefnogaeth gan y ddeuawd ysgrifennu caneuon 'Boyce and Hart'.
The Monkees | |
---|---|
The Monkees yn 1966. Gyda'r cloc o'r top-chwith: Peter Tork, Micky Dolenz, Michael Nesmith, Davy Jones | |
Y Cefndir | |
Tarddiad | Los Angeles, Califfornia, U.D.A. |
Math o Gerddoriaeth |
|
Cyfnod perfformio |
|
Label |
|
Perff'au eraill |
|
Gwefan | monkees.com |
Aelodau | |
Cyn-aelodau | |
|
Ar y cychwyn, bach iawn oedd cyfraniad y pedwar actor-gerddor yn y stiwdio recordio am y misoedd cyntaf yn ei gyrfa pum mlynedd fel y "Monkees". Roedd hyn yn rhannol oherwydd yr amser oedd angen i ffilmio'r gyfres deledu.[1] Er hyn, gwnaeth Nesmith cyfansoddi a chynhyrchu rhai caneuon o'r cychwyn, a cyfrannodd Tork ychydig bach o waith gitâr ar y sesiynau gynhyrchwyd gan Nesmith. Cyfranodd y pedwar prif leisiau i wahanol draciau. Yn y diwedd, brwydrodd y pedwar i gael yr hawl i oruwchwylio yr holl gynnyrch cerddorol dan enw'r band, yn gweithio fel cerddorion, cantorion, cyfansoddwyr a chynhyrchwyr.
Wedi i'r sioe deledu ddod i ben yn 1968, parhaodd y Monkees recordio cerddoriaeth hyd 1971, pan chwalodd y grŵp. Daeth adfywiad o ddiddordeb yn y band yn 1986, a arweiniodd at gyfres o deithiad aduniad a recordiau newydd. Mae'r grŵp wedi aduno a theiio sawl gwaith ers hynny gyda gwahanol aelodau a gwahanol raddau o lwyddiant. Bu farw Jones yn Chwefror 2012 a bu farw Tork yn Chwefror 2019. Mae Dolenz a Nesmith yn parhau fel aelodau gweithredol o'r grŵp.
Disgrifiodd Dolenz The Monkees i ddechrau fel "sioe deledu am fand dychmygol.. oedd eisiau bod fel y Beatles ond byth yn llwyddiannus".[2] Yn eironig, arweiniodd llwyddiant y sioe at yr actor-gerddorion i ddod yn un fandiau mwyaf llwyddiannus y 1960au. Mae'r Monkees wedi gwerthu mwy na 75 miliwn o recordiau yn fyd-eang[3][4] gan eu wgendu yn un o'r grwpiau a werthodd fwyaf erioed gyda chaneuon poblogaidd rhyngwladol, fel "Last Train to Clarksville", "Pleasant Valley Sunday", "Daydream Believer", ac "I'm a Believer". Adroddwyd mewn papurau newydd a chylchgronau fod y Monkees wedi gwerthu fwy na'r Beatles a'r Rolling Stones gyda'i gilydd yn 1967,[5][6] ond honnodd Nesmith yn ei hunangofiant Infinite Tuesday mai celwydd oedd hynny, a ddywedodd ef wrth newyddiadurwr.[7]
Albymau
golygu- The Monkees (1966)
- More of The Monkees (1967)
- Headquarters (1967)
- Pisces, Aquarius, Capricorn & Jones Ltd. (1967)
- The Birds, The Bees & the Monkees (1968)
- Head (1968)
- Instant Replay (1969)
- The Monkees Present (1969)
- Pool It! (1987)
- Justus (1996)
- Good Times! (2016)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Sandoval, Andrew (2005). The Monkees: The Day-by-Day Story of the '60s TV Pop Sensation. San Diego: Thunder Bay Press. t. 39. ISBN 978-1-59223-372-4.
- ↑ Piorkowski, Jeff. "Monkee Micky Dolenz loves science, excels in all forms of entertainment". Cleveland.com. Cyrchwyd 16 Mai 2012.
- ↑ Graff, Gary (29 Chwefror 2012). "Monkees Singer Davy Jones Dead at 66". Billboard. Cyrchwyd 12 Mawrth 2018.
- ↑ 21 Chwefror 2011 (12 Mawrth 2018). "Hey Hey, It's...The Monkees Reformation". The Daily Telegraph.
- ↑ [1] [dolen farw]
- ↑ Greene, Andy (11 Mai 2012). "The Monkees - 1967 - The Top 25 Teen Idol Breakout Moments". Rolling Stone. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-05. Cyrchwyd 7 Awst 2014.
- ↑ "In 1977 Mike Nesmith Fooled the World: When The Monkees Sold More Records Than The Beatles and Rolling Stones Combined". Flashbak (yn Saesneg). 2017-09-18. Cyrchwyd 2017-11-09.