Cyflwynydd teledu a radio, dyn busnes, gyrrwr rasio a pheilot o Loegr oedd Michael George "Mike" Smith (23 Ebrill 19551 Awst 2014), adnabwyd hefyd fel ei ffugenw "ar yr awyr" Smitty. Bu farw o gymlethdodau yn dilyn llawdriniaeth ar y galon.[1]

Mike Smith
Ganwyd23 Ebrill 1955 Edit this on Wikidata
Romford Edit this on Wikidata
Bu farw1 Awst 2014 Edit this on Wikidata
Harefield Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • King Edward VI Grammar School, Chelmsford Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyflwynydd teledu, cyflwynydd radio, darlledwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodSarah Greene Edit this on Wikidata

Gyrfa cyfryngol

golygu

Cychwynnodd Smith ei yrfa ddarlledu ar Radio Ysbyty Chelmsford, cyn ymuno â BBC Radio 1 yn 1975 fel cynhyrchydd a chyflwynydd llawrydd. Roedd ei waith yn cynnwys gwaith cynhyrchu a hyrwyddo ar gyfer y Radio 1 Roadshow, Quiz Kid a rhan fwyaf o'r sioeau rhwydwaith yn ystod y dydd. Fel DJ wrth gefn, roedd Smith yn darlledu weithiau pan oedd darllediadau allanol byw yn methu. Yn Mehefin 1978, ymunodd â Capital Radio yn Llundain a chyflwynodd amrywiaeth o sioeau, hyd Gorffennaf 1980 pan ddaeth Smith yn gyflwynydd teledu brecwast. Symudodd nôl i Radio 1 yn 1982, gan gyflwyno sioe foreol yn ystod yr wythnos rhwng 6 i 7am a sioe fore Sadwrn.

Yn 1983, cymerodd Smith yr awenau ar sioe amser cinio rhwng 11.30am-2pm hyd Mawrth 1984, pan adawodd am gyfnod byr i gyflwyno BBC Breakfast Time. Dychwelodd i Radio 1 yn Mai 1986, gan gymryd drosodd o Mike Read ar The Radio 1 Breakfast Show rhwng 7.00 a 9.30 am, lle byddai'n aros am union ddwy flynedd. Mewn rhaglen ddogfen When Moyles met The Radio 1 Breakfast DJs a ddarlledwyd ar y BBC yn Mai 2010, cyfaddefodd Smith wrth Chris Moyles nad oedd wir yn gweld eisiau bod ar y radio, ond ddim teledu.

Teledu

golygu

Roedd gyrfa Smith ar deledu yn cynnwys CBTV ar Thames TV, sawl sioe ar y BBC yn cynnwys sioe gerddoriaeth Top of the Pops (1982-1988) Show Business (1983) a Friday's People (1985–87), sioe Noel Edmonds, The Late, Late Breakfast Show (1984–86), That's Showbusiness (1989–96), ac ar sioe ITV Julian Clary, Trick or Treat.

Roedd Smith un o gyflwynwyr teledu'r BBC i Live Aid yn 1985 a chyflwynodd sawl sioe gynnar ar gyfer Comic Relief.

Cyflwynodd Smith ddarllediad Railwatch ar y BBC, dros bum diwrnod yn Chwefror 1989. Roedd darllediadau byw mawr arall yn cynnwys Hospital Watch, Airport Watch a darllediad BBC o The Royal Tournament.

Gweithgareddau arall

golygu

Peilot

golygu

Roedd Smith yn beilot cymwysedig. Ar 10 Medi 1988 wrth beilota ei hofrennydd Robinson R22 Beta (gyda'i gofrestriad personol G-SMIF) cafodd ddamwain ar ôl plymio i'r ddaear yn Swydd Gaerloyw, ac anafwyd Smith a'i gariad (ei wraig yn ddiweddarach)Sarah Greene. Fe ddywedodd Smith ei fod wedi colli holl bŵer o injan yr hofrennydd wrth cylchynu man glanio anghyfarwydd. Cafodd y ddau niwed difrifol, gyda Greene yn torri'r ddau goes a braich, a Smith yn torri ei gefn a'i ffêr. Ni wnaeth Cangen Ymchwilio Damweiniau Awyr (AAIB) feirniadu na ryddhau Smith o fai (am fod hyn tu hwnt i orchwyl y corff), gan ddod i'r casgliad syml fod "...archwiliad yr hofrennydd [yn cynnwys rheoli ehediad, tanwydd, rheoli injan, systemau deinamig a'r injan ei hun] ddim wedi datgelu unrhyw fethiant nag annefnyddioldeb a allai fod wedi achosi colled o gyflymder y rotor."[2][3]

Rasio modur

golygu

Yn gyrru ers yn 8 mlwydd oed, fe rasiodd Smith mewn digwyddiadau ar drac gwair ers yn 14 oed, yn adeiladau ei geir ei hun. Pasiodd ei brawf gyrru yn 17 oed yn 1972 a chymerodd at chwaraeon modur yn rasio, ralïo a ralïo croes. Yn 1976 aeth ymlaen i Formula Ford 2000 gyda char a gynlluniwyd gan Patrick Head. Roedd Smith hefyd yn sylwebydd rasio modur, yn bennaf yn Brands Hatch, lle yn 21 oed roedd hefyd yn rhedeg yr adran farchnata. O'r cyfnod yma y daeth ei ddiddordeb mewn darlledu.

Ar yr un pryd a gweithio fel darlledwr, rasio Smith mewn sawl Pencampwriaeth Ceir Teithio Prydeinig, yn gyrru Sierra Cosworth achrededig yn 1987, ac wrth ochr Frank Sytner yn 1998. Enillodd y Willhire 24 Hour yn Snetterton yn 1986, yn gyrru Ford Escort RS Turbo.

Yn 1989, sefydlodd Smith dîm BTCC o'r enw Trakstar gyda Robb Gravett a Malcolm Swetnam. Roedden nhw'n rhedeg dau Sierra Cosworth, a mewnforiwyd o fusnes Dick Johnson o Geir Teithio Awstralaidd. Aeth Gravett ymlaen i ddod yn ail orau yn Grŵp A, ond roedd Smith yn brwydro gyda'i wellhad o'r ddamwain hofrennydd. Fodd bynnag, roedd colled prif noddwr yn 1990 yn golygu mai dim ond un car a allai ei redeg, ac fe rasiwyd honno gan Robb Gravett. Ni fyddai Smith yn rasio'n gystadleuol eto.

Cwmni ffilmio o'r awyr

golygu

Yn 2004, ffurfiodd Smith gwmni Flying TV – cwmni sy'n darparu gwasanaethau ffilmio o'r awyr i ddarlledwyr.[4] Yn ogystal â bod yn Rheolwr Gyfarwyddwr, roedd Smith yn gweithio fel dyn camera yn aml.[5][6]

Bywyd personol

golygu

Mynychodd Smith Ysgol Ramadeg King Edward VI yn Chelmsford, lle'r oedd yn DJ preswyl yn disco chweched dosbarth yr ysgol ar nos Wener. Priododd Sarah Greene yn 1989, yn fuan ar ôl ei damwain hofrennydd yn 1988.

Marwolaeth

golygu

Bu farw Smith ar 1 Awst 2014 o gymhlethdodau yn dilyn llawdriniaeth fawr ar ei galon.[7] Yn hwyr yn Rhagfyr 2014, datgelwyd fod Smith wedi gadael drosGBP 1 miliwn o'i ystad personol i'w wraig, Sarah Greene.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 DJ Mike Smith leaves £1m to his wife (en) , Telegraph, 20 Rhagfyr 2014.
  2. (Saesneg) Robinson R22 Beta, G-SMIF. Aaib.gov.uk. Adalwyd ar 2014-08-02.
  3. ON THIS DAY | 10 | 1988: BBC presenters in helicopter crash , BBC News, 10 Medi 1973. Cyrchwyd ar 2 Awst 2014.
  4. (Saesneg) Helicopter Aerial Filming London, UK, Europe HD, Video and Photography. FlyingTV. Adalwyd ar 2014-08-02.
  5. [1] Archived 23 June 2007 at the Wayback Machine
  6. Lin Jenkins. Former Radio 1 DJ Mike Smith dies following heart surgery (en) , The Guardian, 2 Awst 2014. Cyrchwyd ar 3 Awst 2014.
  7. Former Radio 1 DJ Mike Smith dies aged 59 (en) , BBC News, 2 Awst 2014.

Dolenni allanol

golygu