Sarah Greene

actores

Personoliaeth deledu Seisnig o dras Cymreig yw Elizabeth Sarah Greene (ganwyd 24 Hydref 1957)[1]. Cyflwynodd y rhaglen poblogaidd i blant, Blue Peter rhwng 19 Mai 1980 a 27 Mehefin 1983, yn ogystal â Saturday Superstore, a Going Live am 6 mlynedd.

Sarah Greene
Ganwyd24 Hydref 1957 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Hull
  • The Grey Coat Hospital Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyflwynydd teledu Edit this on Wikidata
TadHarry Greene Edit this on Wikidata
MamMarjie Lawrence Edit this on Wikidata
PriodMike Smith Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Ganwyd Greene yn St Pancras, London,[angen ffynhonnell] yn ferch i'r arbennigwr DIY Cymreig Harry Greene a'r actores Seisnig Marjie Lawrence. Mae ganddi chwaer iau, y cyflwynydd teledu Laura Greene. Addysgwyd Greene yn Ysgol Gynradd Gospel Oak ac Ysgol Grey Coat Hospital Llundain,[2] gan gymeryd rhannau actio yn ystod ei phlentyndod. Graddiodd mewn Drama o Brifysgol Hull. Yna fe aeth ymlaen i gymeryd rhannau actio yn Birmingham, Manceinion a Llundain.[angen ffynhonnell]

Gyrfa deledu golygu

Yn Ionawr 1980, cafodd Greene ran yn y ddrama Together (Southern Television/ITV). Ar ôl ymddangos yn addasiad y BBC o nofel Pamela Brown, The Swish of the Curtain gofynnodd golygydd Blue Peter, Biddy Baxter, iddi gymeryd lle y cyflwynydd Tina Heath, oedd yn gadaely rhaglen[3]. Yn 22 mlwydd oedd, Greene oedd cyflwynydd ieuengaf y rhaglen ar y pryd, ac o fewn pythefnos o gael y swydd, roedd yn ffilmio i'r sioe yng Nghernyw.[3] Enillodd y rhaglen BAFTA yn ystod cyfnod 3 mlynedd Greene ar y sioe. Ar ôl gadael Blue Peter, cyflwynodd Saturday Superstore gyda Mike Read, ac yna cyd-gyflwynodd Going Live! gyda Philip Schofield. Yn ystod ei chyfnod ar Going Live! enillodd Wobr SOS am "Benyw Gorau ar Deledu" dair mlynedd yn olynol. Ymddangosodd mewn hysbysebion teledu ar gyfer coffi Nescafé. Yn ddiweddarach fe gyflwynodd y rhaglen hen greiriau Collectors' Lot ar Channel 4.[3]

Yn ogystal â chyflwyno rhaglenni cylchgrawn tebyg i Pebble Mill a Good Morning Summer gyda Will Hanrahan, mae Greene wedi actio yn y stori Doctor Who, Attack of the Cybermen,[4] Casualty, Brookside a French & Saunders.[5] Yn 1992 cyfunodd ei thalentau ar Ghostwatch, rhaglen oedd yn honni ymchwilio i'r goruwchnaturiol ond a ddatgelwyd i fod yn ddrama, ynghyd â Smith a'r cyflwynydd sioe sgwrsio Michael Parkinson. Fe wnaeth Greene a Smith ymddangos yn y ffilm nodwedd The Man Who Knew Too Little (1997), yn serennu Bill Murray; ac fe wnaethon nhw chwarae cyflwynwyr yn The Theatre Of Life, rhaglen deledu Seisnig ffuglennol oedd yn addo rhan mewn drama drosedd i'r cyfrannwr.[angen ffynhonnell]

Yn 1996 cychwynnodd Greene bartneriaeth pedwar blynedd gyda'r Food Network, yn cyflwyno sioe gylchgrawn, newyddion a thrafodaeth ddyddiol.[6] Yn ddiweddarach, ymddangosodd Greene ar raglen ITV, Have I Been Here Before? ac roedd yn gyflwynydd rheolaidd ar sioe gylchgrawn This Morning. Cyflwynodd Weddings Live ar Discovery Home & Health rhwng 2005 a 2007, darllediad 6-awr flynyddol oedd yn dangos sawl priodas yn fyw ar draws Prydain. Wedi ei phartneru gyda Fred Palascak, cystadlodd Greene yng nghystadleuaeth Dancing on Ice ar ITV yn 2008.[7]

Bywyd personol golygu

Roedd partner Greene, y cyflwynydd teledu a radio, Mike Smith, yn beilot hofrennydd. Ar 10 Medi 1988 roedd Smith yn ceisio glanio eu hofrennydd yn Swydd Gaerloyw pan gafwyd damwain, ac anafwyd Greene a Smith yn ddifrifol. Treuliodd y ddau cwpl o wythnosau yn yr ysbyty cyn i Greene ddychwelyd i gyflwyno Going Live! tra roedd ei choesau dal mewn plaster.[3][8] Priododd hi a Smith yn 1989.

Cymerodd Greene ran mewn pennod o raglen Coming Home ar BBC Wales a ddangoswyd gyntaf ar 22 Rhagfyr 2010. Bu farw ei mam fis cyn ffilmio ond penderfynodd parhau a'r broses ynghyd â'i thad 87 mlwydd oedd. Roedd y rhaglen[9] yn medru olrhain hanes ei goeden deulu nôl i'r 17g yng Nghymru.[10]

Ymddangosodd Greene a'i gŵr, Mike Smith, ar fersiwn enwogion o sioe gwis Pointless ar BBC1 yn Rhagfyr 2012.[11] Bu farw Smith ar 1 Awst 2014.[12]

Cyfeiriadau golygu

  1.  Tŷ'r Cwmniau - FLYING TV LIMITED. Adalwyd ar 21 Mehefin 2021.
  2. School suspends 29 pupils for insulting teacher on Facebook (en) , Mail Online, 12 Ionawr 2009. Cyrchwyd ar 9 Ionawr 2013.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 BBC – I Love Blue Peter – Sarah Greene presenter biography, bbc.co.uk
  4. http://www.bbc.co.uk/cult/classic/bluepeter/presenters/greene.shtml
  5.  BBC Two - French and Saunders, Series 2, Episode 5. BBC.
  6. "Greene leaves Carlton Food Network". broadcastnow.co.uk.
  7. (Saesneg) Greene voted off 'Dancing On Ice'. Digital Spy (14 Ionawr 2008).
  8. (Saesneg) ON THIS DAY. BBC News.
  9. BBC – BBC One Programmes – Coming Home, Series 5, Sarah Greene, bbc.co.uk
  10. (Saesneg) BBC One - Coming Home, Series 5, Sarah Greene. BBC (3 Ebrill 2011).
  11.  BBC One - Pointless Celebrities, Series 3, Episode 8. BBC.
  12.  Mike Smith, former Radio 1 DJ, dies aged 59 (1 Awst 2014).

Dolenni allanol golygu