Mike Young
Cynhyrchydd animeiddio Cymreig yw Michael "Mike" Young (ganwyd 1945) sy'n adnabyddus am gartwnau SuperTed, Wil Cwac Cwac ymysg eraill. Sefydlodd gwmni yng Nghymru ac yn yr Unol Daleithiau, lle mae'n byw erbyn hyn. Young yw prif weithredwr y cwmni animeiddio Splash Entertainment.
Mike Young | |
---|---|
Ganwyd | 1945 y Barri |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | person busnes, cynhyrchydd teledu |
Gwobr/au | Gwobr Emmy |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Young yn y Barri, Bro Morgannwg. Cafodd ei hyfforddi fel cynhyrchydd teledu, a tra ei fod yn gweithio fel ysgrifennwr copi hysbysebu, cyfarfu ei bartner Liz Young. Ar ôl i'r pâr briodi yn y 1970au, roedd ei lysfab Richard Finn (yn ddiweddarach pennaeth ôl-gynhyrchu gyda Mike Young Productions), yn cael trafferth mynd i gysgu. Dyfeisiodd Young straeon am dedi bêr i adrodd iddo gyda'r nos a soniodd Finn wrth ei ffrindiau ysgol am y straeon rhyfeddol, a arweiniodd at lyfrau SuperTed a gyd-gynhyrchwyd gyda Young.[1]
Yn 1981, sefydlodd Young gwmni Siriol Productions, ynghyd â'i wraig, yr animeiddiwr Dave Edwards a'r cynhyrchydd Robin Lyons. Aeth y cwmni at y sianel deledu S4C a oedd newydd ei ffurfio gan sicrhau comisiwn i gynhyrchu cyfres animeiddiedig o SuperTed. Oherwydd llwyddiant y gyfres gynaf, fe'i drosleisiwyd i'r Saesneg. Gwnaed pennod arbennig ar gyfer y Swyddfa Gymreig, oedd yn dysgu plant am ddiogelwch ar y ffyrdd.[2] Fe lwyddodd yn gyfres yn y Deyrnas Unedig, a dilynwyd y gyfres gyda'r animeiddiad mwy uchelgeisiol Fantastic Max (gyda Hanna-Barbera) a Little Dracula (gyda Steven Hahn Productions).[3]
Roedd Young yn ei chael yn anodd gwerthu ei gyfres i Hollywood heb bresenoldeb lleol yna, felly ym 1989 symudodd y teulu i Los Angeles, gan werthu eu hawliau i Super Ted a chyfranddaliadau yn Siriol Animation i gyllido'r symud ac i osod i fyny Mike Young Productions, a elwir erbyn hyn yn Splash Entertainment. Cynhyrchiad cyntaf y cwmni oedd P. J. Sparkles, a fe'i dilynwyd gan nifer o gyfresi animeiddiedig, gan gynnwys The Hot Rod Dogs and Cool Car Cats (cynhyrchwyd ar y cyd gyda Stiwdio Dave Edwards), The Life and Adventures of Santa Claus, He-Man and the Masters of the Universe, Pet Alien, Jakers! The Adventures of Piggley Winks (a enillodd saith Emmy a Gwobr BAFTA), Growing Up Creepie, cyfres i Bratz TV a pum ffilm hyd lawn Bratz ar DVD, Dive Olly Dive, Chloe's Closet, Care Bears: Welcome to Care-a-Lot, Strawberry Shortcake, and Sabrina: Secrets of a Teenage Witch.[3]
Cynhyrchodd gwmni Young cyfres o gartwnau caricatur yn Stadiwm Dinas Caerdydd.[4]
Bywyd personol
golyguMae Young yn briod i bartner, llywydd a chyd-sylfaenydd Mike Young Productions, Liz Young. Mae'n gefnogwr brwd o bêl-droed ac yn gefnogwr oes o glwb Dinas Caerdydd, a mae'n rhedeg cynghrair pêl-droed iau yng Nghaliffornia.[5] Gwobrwyd Young gyda Medal y Canghellor yn seremoni raddio 2007 Prifysgol Morgannwg.[6]
Ffilmyddiaeth
golyguMae Young wedi gweithio ar y cyfresi canlynol:
Mewn partneriaeth gyda Siriol Animation
- SuperTed (1982-86, Teledu)
- Wil Cwac Cwac (1984, Teledu)
- A Winter Story/Siôn Blewyn Coch (ffilm) (1986, Teledu)
- The Easter Egg/Yr Ŵy Pasg (1987, Teledu)
- Turkey Love/Cariad Cyntaf (1988, Teledu)
- Anturiaethau Pellach SuperTed (1989, Teledu) (gyda Hanna-Barbera)
- The Little Engine That Could / Yr Injan Fach Fentrus (1991, Ffilm) (gyda S4C ac Universal Studios)
- Gerallt Gymro
- Fantastic Max / Anturiaethau Math (1988-90, Teledu) (gyda Hanna-Barbera). Fersiwn Cymraeg gan Atsain.
Gadawodd Cymru i weithio mewn partneriaeth â chwmnïau eraill
- Little Dracula (gyda Fox Plant)
- Potsworth & Co. (AKA: Midnight Patrol: Adventures in the Dream Zone) (gyda Hanna-Barbera, BBC a'r Sleepy Kids Company Ltd)
- Salty's Lighthouse (gyda TLC a Sunbow Entertainment)
- The Hot Rod Dogs and Cool Car Cats (gyda Stiwdio Dave Edwards)
- Once Upon a Forest (Film, 1993)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Drawn to new path: independent animation studio takes reverse approach to selling its shows, Los Angeles Business Journal, 27 Ionawr 2003
- ↑ Diamond, Frazer. "SuperTed (1982-1986)". Toonhound. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-03-15. Cyrchwyd 2016-03-27.
- ↑ 3.0 3.1 "Mike Young". IMDb. Cyrchwyd 27 Mawrth 2016.
- ↑ Cardiff City Stadium news – When Young Met Young - June 15, 2009 at the Wayback Machine (archived 21 Gorffennaf 2009)
- ↑ Phillips, Terry SuperTed stadium?
- ↑ "Honorary Awards 2007". University of Glamorgan. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-29. Cyrchwyd 2016-03-27.
Dolenni allanol
golygu- Mike Young ar wefan Internet Movie Database