Mikola Statkevich

gwleidydd Belarwsieg

Mae Mikola (Mikalai) Statkevich (Orgraff Gymraeg: Micola Statcefitsh; Belarwseg: Мікалай Статкевіч, Rwsieg: Николай Статкевич Nikolai Statkewitsch; ganwyd 12 Awst 1956 yn Ljadna, ardal Sluzk, Minskaya Woblasz) yn wleidydd democrataidd cymdeithasol yn Belarws. Mae'n aelod o Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol Belarwsia "Narodnaya Hramada" (BSDP NH). Roedd ei rieni yn athrawon ysgol ac mae'n ddisgynnydd i'r teulu o uchelwyr, Statkiewicz.

Mikola Statkevich
Ganwyd12 Awst 1956 Edit this on Wikidata
Liadna Edit this on Wikidata
Man preswylMinsk Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYr Undeb Sofietaidd, Belarws Edit this on Wikidata
AddysgYmgeisydd Gwyddorau Technegol Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Military Academy of Belarus
  • Minsk Higher Air Defense Anti-aircraft Missile Academy Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, person milwrol Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolBelarusian Social Democratic Assembly, Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd, Belarusian Social Democratic Party (People's Assembly) Edit this on Wikidata
PriodMaryna Adamovich Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal"Am Wasanaeth Arbennig", Belarusian Democratic Republic 100th Jubilee Medal, Medal "For Impeccable Service", 3rd class, Gwobr Sakharov Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://statkevich.org/ Edit this on Wikidata

Bywyd golygu

Astudiodd Mikola Statkevich beirianneg yn yr Academi Filwrol ym Minsg (prifddinas Belarws) ac yna gwnaeth ei ddoethuriaeth ym maes RFID/amddiffyn awyr. Ychydig wythnosau cyn ei cyflwyno ei ddoethuriaeth, cafodd ei ryddhau o'r fyddin oherwydd ei fod wedi siarad yn erbyn Belarws yn cymryd rhan mewn gweithrediadau milwrol yn Rwsia.

Ar ddchrau'r 1990au roedd Statkevich yn un o arweindydd Cymdeithas Filwrol Belarws (y BVZ), mudiad pro-annibyniaeth o swyddogion milwrol Sofietaidd o Belarws.[1]

Ar ddechrau 1991 (pan oedd yr Undeb Sofietaidd dal mewn bodolaeth ac o dan reolaeth unbleidiol y Blaid Gomiwnyddol) ymddiswyddodd Statkewitsch o’r Blaid Gomiwnyddol fel arwydd o brotest dros atal treisgar gwrthryfel Lithwania (Sul Gwaedlyd Vilnius). Fel un o'r ychydig bersonél milwrol ym Melarus, gwrthwynebodd coup Awst ym Moscow ym 1991.

Yn y blynyddoedd 1995–1996 llwyddodd Statkevich i ddod i mewn i senedd Belarws dair gwaith. Er mwyn atal hyn, datganodd llywodraeth Alexander Lukashenko fod yr etholiadau yn annilys bob tro. Yn 1999 trefnodd Statkewitsch yr hyn a elwir yn "Gorymdaith Rhyddid" ym Minsk, lle cymerodd 50,000 o brotestwyr ran. Cafodd y rali ei hatal yn dreisgar a chafodd sawl gwleidydd blaenllaw o'r gwrthbleidiau naill ai eu harestio neu eu llofruddio. Cafodd Statkewitsch ei arestio cyfanswm o 30 gwaith am ei wrthwynebiad i Lukashenka a chychwynnwyd achos troseddol yn ei erbyn dair gwaith. [2]

Ymgyrch Arlywyddol golygu

Delwedd:Statkievic1998.jpg
Mikalai Statkevich yn nathliad pen-blwydd y Rada Gweriniaeth Ddemocrataidd Belarws yn 80 oed, 25 Mawrth 1998 ym Minsk. Llun gan Vladimir Sapagov

Ym 1995 daeth Statkevich yn gadeirydd y BSDP (NH) a rhedeg fel ymgeisydd yn etholiad arlywyddol 2010. Ar ddiwrnod yr etholiad, 19 Rhagfyr, cafodd ei arestio ynghyd ag aelodau eraill yr wrthblaid yn ystod gwrthdystiad. Ym mis Mai 2011 cafwyd Statkevich yn euog o drefnu protestiadau torfol ynghyd â Dzmitry Wus, a oedd hefyd wedi sefyll yn erbyn Lukashenka. Gosododd y llys y ddedfryd i Statkevich yn chwe blynedd mewn gwersyll llafur.[3]

Roedd Senedd Ewrop a sefydliadau hawliau dynol rhyngwladol o blaid rhyddhau Statkevich. Rhyddhawyd Statkevich yn y cyfnod cyn yr etholiad arlywyddol ar 23 Awst 2015.[4]

Etholiad Arlywyddol 2020 golygu

Ar 31 Mai 2020, arestiwyd ef ar y ffordd i rali lle roedd llofnodion i gefnodi Svetlana Tikhanovskaya yn cael eu casglu. Cafodd ei ddedfrydu i 15 diwrnod yn nalfa’r heddlu am drefnu gwrthdystiad diawdurdod, a chafodd ei wahardd rhag etholiad arlywyddol 2020 ym Melarus.[5] This sentence was extended two more times, and he was tried again on June 29 for organizing unrest.[6]

Teulu golygu

Mae gan Statkewitsch ferch 32 oed sy'n byw yn yr Almaen.[7]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Мікола Статкевіч: У 2011 годзе ў апазіцыі можа быць апошні шанец" (yn Belarusian). nn.by. 23 February 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 December 2013. Cyrchwyd 10 July 2012.CS1 maint: unrecognized language (link)
  2. Nodyn:Internetquelle
  3. "Statkevich sentenced to 6, Uss to 5.5 years in prison". Charter 97. 26 May 2011. Cyrchwyd 10 July 2012.
  4. Weißrussischer Präsident begnadigt sechs Oppositionelle DW, 23. August 2015.
  5. [1]
  6. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-30. Cyrchwyd 2020-08-15.
  7. Nodyn:Internetquelle

Dolenni allanol golygu

   Eginyn erthygl sydd uchod am Felarwsiad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.