Senedd Ewrop
Un o ganghennau deddfwriaethol yr Undeb Ewropeaidd ac un o'i saith sefydliad yw Senedd Ewrop (neu Y Senedd Ewropeaidd). Gyda Chyngor yr Undeb Ewropeaidd, mae hi'n deddfu deddfwriaeth Ewropeaidd, yn gyffredin ar gynnig y Comisiwn Ewropeaidd. Mae'r Senedd yn cynnwys 705 o Aelodau Senedd Ewrop (ASEau). Mae hi'n cynrychioli'r ail etholwyr mwyaf yn y byd (ar ôl Senedd India) a'r etholwyr democrataidd traws-wladol mwyaf yn y byd (375 miliwn o bleidleiswyr cymwys yn 2009)[1][2]
Ers 1979, etholir y Senedd yn uniongyrchol bob pum mlynedd gan ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd trwy bleidlais gyffredinol. Mae'r nifer a bleidleisiodd yn etholiadau seneddol wedi lleihau bob tro ar ôl 1979 tan 2019, pan cynyddwyd y nifer gan 8 y cant, ac aeth yn uwch na 50% am y tro cyntaf ers 1994.[3] 18 oed yw'r oedran pleidleisio ym mhob Aelod-wladwriaeth ac eithrio ym Malta ac Awstria, lle mae'n 16 oed, a Gwlad Groeg, lle mae'n 17 oed.[4]
Er bod gan Senedd Ewrop bŵer deddfwriaethol, fel y mae y Cyngor, nid oes ganddi'r hawl menter – sydd yn hawl y Comisiwn Ewropeaidd – fel y rhan fwyaf o seneddau gwladol yr aelod-wladwriaethau.[5][6] “Sefydliad cyntaf” yr Undeb Ewropeaidd yw hi (soniwyd yn gyntaf yn ei gytundebau a bod gan flaenoriaeth seremonïol dros sefydliadau eraill yr UE),[7] a rhannu pwerau deddfwriaethol a chyllidebol cyfatal gyda’r Cyngor (ac eithrio ar ychydig o faterion lle gweithreda gweithdrefn deddfwriaethol arbennig). Hefyd, mae ganddi reolaeth cyfartal dros gyllid yr UE. Yn y pen draw, mae’r Comisiwn Ewropeaidd, sydd yn gwasanaethu fel cangen weithredol yr UE, yn atebol i’r Senedd. Yn enwedig, gall y Senedd benderfynu a ddylid cymeradwyo enwebai’r Cyngor Ewropeaidd ar gyfer Arlywydd y Comisiwn, ac mae hi ymhellach yn gyfrifol am gymeradwyo (neu wrthod) penodi’r Comisiwn yn ei gyfanrwydd. Gall hi wedyn gorfodi’r Comisiwn cyfredol i ymddiswyddo gan deddfu cynnig cerydd.[5]
Llywydd Senedd Ewrop yw David Sassoli (PD) etholwyd yn Ionawr 2019. Mae e’n llywyddu dros siambr aml-blaid, y pum grŵp mwyaf yw grŵp Plaid Pobl Ewrop (EPP), Cynghrair Flaengar y Sosialwyr a'r Democratiaid (S&D), Renew Europe, y Gwyrddion/Cynghrair Rhydd Ewrop (Gwyrddion–EFA) ac Hunaniaeth a Democratiaeth (ID). Etholiadau 2019 oedd yr etholiadau UE-gyfan diwethaf.
Mae pencadlys y Senedd yn Strasbwrg, Ffrainc,[8] a’i swyddfeydd gweinyddol yn Ninas Lwcsembwrg. Mae sesiynau llawn yn digwydd yn Strasbwrg yn ogystal â Brwsel, Gwlad Belg, wrth i gyfarfodydd pwyllgor y Senedd yn digwydd yn bennaf ym Mrwsel.[9]
Grwpiau gwleidyddol
golyguDyma restr o'r grwpiau o bleidiau yn y senedd a'r nifer o seddi sydd ganddynt ar hyn o bryd (ers Mehefin 2009):
- EPP-ED (y Grŵp Cristnogol Democrataidd)
- 284 sedd
- PSE (Plaid y Sosialwyr Ewropeaidd)
- 215 sedd
- ALDE (Clymblaid y Rhyddfrydwyr a'r Democratiaid dros Ewrop)
- 105 sedd
- UEN (Undeb y Cenhedloedd Ewropeaidd)
- 44 sedd
- Greens-EFA (Pleidiau gwyrdd - Cynghrair Rhydd Ewrop)
- 42 sedd
- ChUE/ChGN (Chwith Unedig Ewropeaidd/Chwith Gwyrdd Nordig)
- 41sedd
- IND/DEM (Rhyddid a Democratiaeth)
- 24 sedd
- Ceir nifer o aelodau Senedd Ewrop sy ddim yn perthyn i grŵp pleidiau. Fe'u gelwir yn "NI" (Non-Inscrits).
- 32 sedd
Sylwch: Nid yr un peth â'r pleidiau cenedlaethol ydyw grwpiau pleidiau Senedd Ewrop, er bod cysylltiad rhyngddyn nhw.
Cynrychiolaeth
golyguGwlad | Pob. (miw.) | ASEau | Pob./MEP | Dylanwad | |
---|---|---|---|---|---|
Lwcsembwrg | 0.4 | 6 | 66667 | 12.42 | |
Malta | 0.4 | 5 | 80000 | 10.53 | |
Cyprus | 0.8 | 6 | 133333 | 6.21 | |
Estonia | 1.4 | 6 | 233333 | 3.54 | |
Slofenia | 2.0 | 7 | 285714 | 2.89 | |
Latfia | 2.4 | 9 | 266667 | 3.10 | |
Iwerddon | 3.7 | 13 | 284615 | 2.91 | |
Lithwania | 3.7 | 13 | 284615 | 2.91 | |
Y Ffindir | 5.2 | 14 | 371429 | 2.22 | |
Denmarc | 5.3 | 14 | 378571 | 2.18 | |
Slofacia | 5.4 | 14 | 385714 | 2.14 | |
Awstria | 8.1 | 18 | 450000 | 1.84 | |
Sweden | 8.9 | 19 | 468421 | 1.76 | |
Portiwgal | 9.9 | 24 | 412500 | 2.00 | |
Hwngari | 10.0 | 24 | 416667 | 1.98 | |
Gwlad Belg | 10.2 | 24 | 425000 | 1.94 | |
Y Weiriniaeth Tsiec | 10.3 | 24 | 429167 | 1.92 | |
Gwlad Groeg | 10.6 | 24 | 441667 | 1.87 | |
Yr Iseldiroedd | 15.8 | 27 | 585185 | 1.41 | |
Gwlad Pwyl | 38.6 | 54 | 714815 | 1.15 | |
Sbaen | 39.4 | 54 | 729630 | 1.13 | |
Yr Eidal | 57.7 | 78 | 739744 | 1.11 | |
Ffrainc | 59.1 | 78 | 757692 | 1.09 | |
Y Deyrnas Unedig | 59.4 | 78 | 761538 | 1.08 | |
Yr Almaen | 82.1 | 99 | 828283 | 1.00 | |
Cyfanswm | 450.8 | 732 | 615846 | 1.35 |
Mae Senedd Ewrop yn cynrychioli'r 450 miliwn o bobl sydd yn yr Undeb Ewropeaidd. Ar hyn o bryd mae 732 o aelodau seneddol (ASE).
Llywyddion Senedd Ewrop
golyguLlywyddion y Cynulliad Seneddol, 1958-1962
golygu- Robert Schuman (Ffrainc) 1958-1960
- Hans Furler (Gorllewin yr Almaen) 1960-1962
Llywyddion Senedd Ewrop, 1962 i heddiw
golygu- Gaetano Martino (Yr Eidal) 1962-1964
- Jean Pierre Duvieusart (Gwlad Belg) 1964-1965
- Victor Leemans (Yr Iseldiroedd) 1965-1966
- Alain Poher (Ffrainc) 1966-1969
- Mario Scelba (Yr Eidal) 1969-1971
- Walter Behrendt (Gorllewin yr Almaen) 1971-1973
- Cornelis Berkhouwer (Yr Iseldiroedd) 1973-1975
- Georges Spénale (Ffrainc) 1975-1977
- Emilio Colombo (Yr Eidal) 1977-1979
- Simone Veil (Ffrainc) 1979-1982
- Piet Dankert (Yr Iseldiroedd) 1982-1984
- Pierre Pflimlin (Ffrainc) 1984-1987
- The Lord Plumb (Y Deyrnas Unedig) 1987-1989
- Enrique Barón Crespo (Sbaen) 1989-1992
- Egon Klepsch (Yr Almaen) 1992-1994
- Klaus Hänsch (Yr Almaen) 1994-1997
- José María Gil-Robles (Sbaen) 1997-1999
- Nicole Fontaine (Ffrainc) 1999-2002
- Pat Cox (Gweriniaeth Iwerddon) 2002-2004
- Josep Borrell Fontelles (Sbaen) 2004-2007
- Hans-Gert Pöttering (Yr Almaen) 2007-14 Gorff. 2009
- Jerzy Buzek (Gwlad Pwyl) 14 Gorff. 2009–17 Ion. 2012
- Martin Schulz (Yr Almaen) 17 Ion. 2012-presennol
Gweler hefyd
golygu- ↑ Wielaard, Constant Brand and Robert (2009-06-08). "Conservatives Gain in European Parliament Elections" (yn Saesneg). ISSN 0190-8286. Cyrchwyd 2021-05-08.
- ↑ "Misery for social democrats as voters take a turn to the right". the Guardian (yn Saesneg). 2009-06-08. Cyrchwyd 2021-05-08.
- ↑ "Results of the 2014 European elections - European Parliament". Results of the 2014 European elections - European Parliament (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-08.
- ↑ "The European Parliament: electoral procedures | Fact Sheets on the European Union | European Parliament". www.europarl.europa.eu (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-08.
- ↑ 5.0 5.1 "About Parliament". About Parliament (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-08.
- ↑ "Pöttering defends parliament's role at EU summits: theparliament.com". web.archive.org. 2011-05-24. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-24. Cyrchwyd 2021-05-08.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ "Parliament's Protocol Service - mission impossible?". www.europarl.europa.eu. Cyrchwyd 2021-05-08.
- ↑ Erthygl 28 Cytundeb ar Undeb Ewropeaidd
- ↑ Anonymous (2016-06-16). "European Parliament". European Union (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-08.