Milfeddyg
Math o feddyg sy'n trin anifeiliaid yw milfeddyg. Mae'r rhanfwyaf o filfeddyg yn trin anifeiliaid dof megis cathod, cŵn a chwningod. Maent hefyd yn trin da byw mewn ffermydd, anifeiliaid gwyllt mewn sŵ neu mewn canolfan achub anifeiliaid.
Mae'n rhaid cael gradd er mwyn cymhwyso i fod yn filfeddyg, mae hyn fel rheol yn cymryd 5 mlynedd yn llawn amser. Mae'n rhaid cwblhau lefel A mewn bioleg neu Ddiploma Cenedlaethol BTEC er mwyn gallu astudio ar gyfer gradd. Gall milfeddyg arbennigo yn y math o anifeiliaid, neu ym maes meddygol megis llawdriniaeth neu ddermatoleg.