Millicent Fawcett
Roedd Y Feistres Millicent Garrett Fawcett GBE (11 Mehefin 1847 – 5 Awst 1929) yn ffeminist, yn arweinydd gwleidyddol ac yn arweinydd undeb. Caiff ei hadnabod yn bennaf am ei gwaith yn ymgyrchu dros y bleidlais i fenywod.
Millicent Fawcett | |
---|---|
Ganwyd | Milicent Garrett 11 Mehefin 1847 Aldeburgh |
Bu farw | 5 Awst 1929 Gower Street |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, ymgyrchydd dros hawliau merched, llenor, economegydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Electoral Disabilities of Women |
Plaid Wleidyddol | Y Blaid Unoliaethol Ryddfrydol |
Tad | Newson Garrett |
Mam | Louisa Dunnell |
Priod | Henry Fawcett |
Plant | J. Malcolm Fawcett, Philippa Fawcett |
Gwobr/au | Boneddiges yr Uwch Groes o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig |
Fel swffragist (yn hytrach na swffraget), roedd hi'n ymgyrchydd cymedrol ond di-flino. Aeth llawer o'i hegni ar yr ymdrech i wella cyfleoedd i fenywod mewn addysg bellach, a yn 1875 bu iddi gyd-sefydlu Coleg Newnham, Caergrawnt.[1] Yna daeth yn lywydd ar Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau y Bleidlais i Fenywod (neu'r NUWSS), a bu'n lywydd o 1897 hyd at 1919. Ym mis Gorffennaf 1901 penodwyd hi i arwain comisiwn Llywodraeth Prydain yn Ne Affrica i ymchwilio i amodau'r gwersylloedd crynhoi a oedd wedi'u creu yno ar ddechrau Ail Ryfel y Boer. Roedd ei hadroddiad yn atgyfnerthu'r hyn roedd yr ymgyrchydd Emily Hobhouse am amodau'r gwersylloedd.[2]
Cefndir gwleidyddol
golyguGanwyd Millicent Garrett Fawcett ar 11 Gorffennaf 1847 yn Aldeburgh[3] yn ferch i Newson Garrett, entrepreneur llwyddiannus o Leiston, Suffolk, a'i wraig, Louisa (née Dunnell; 1813–1903), o Lundain.[4][5] Roedd hi'n un o ddeg o blant.
Pan roedd hi'n blentyn, cyflwynodd ei chwaer hŷn, Elizabeth Garrett Anderson, a ddaeth yn ddoctor benywaidd cyntaf Prydain, hi i Emily Davies, swffragist o Loegr. Ysgrifennodd merch Elizabeth, Louisa Garrett Anderson ym mywgraffiad ei mam ddatagniad gan Davies i'w mam a Fawccett, lle dywedodd Davies wrth y chwiorydd, "Mae'n glir beth sy'n rhaid i mi ei wneud. Mae'n rhaid i mi ymroi fy hun i sicrhau addysg uwch, wrth i chi agor y proffesiwn meddygol i fenywod. Ar ôl gwneud y pethau hyn, rhaid i ni weld ynglŷn â chael y bleidlais. Yna trodd at Millicent: "Rwyt ti'n iau nag ydyn ni, Millie, felly bydd yn rhaid i ti wneud hynny." [6]
Yn 1858 aeth i Lundain i astudio mewn ysgol breifat yn Blackheath. Pan roedd hi'n 19 aeth i glywed araith gan yr AS radicalaidd, John Stuart Mill. Roedd e'n eiriolwyr cynnaf o hawl menywod i bleidleisio ar draws y byd. Gwnaeth ei araith ar hawliau cyfartal argraff fawr ar Millicent, a daeth hi'n rhan o'i ymgyrch.
Gyda deg o fenywod ifanc eraill, gan gynnwys Garret a Daviesm gweithiodd Fawcett i ffurfio Cymdeithas Kensington, grŵp trafod wedi'i ffocysu ar y bleidlais i fenywod yn Lloegr yn 1865. Yn 1866, yn 19 oed ac yn rhy ifanc i lofnodi, trefnodd Fawcett y llofnodion ar gyfer y ddeiseb gyntaf dros y bleidlais i fenywod a daeth yn ysgrifenyddes i Gymdeithas y Bleidlais i Fenywod Llundain.
Gweithgarwch gwleidyddol
golyguDechreuodd gyrfa wleidyddol Fawcett ar ôl iddi fynychu'r cyfarfod cyntaf i gael y bleidlais i fenywod. Roedd hi'n ymgyrchydd cymedrol, yn annhebyg i'r Swffragetiaid.
Roedd hi o'r farn bod eu gweithredoedd yn niweidio'r siawns i fenywod gael y bleidlais gan droi ASau ac aelodau'r cyhoedd yn eu herbyn.[7] Erbyn 1905, roedd gan yr NUWSS 305 o gymdeithasau a bron i 50,000 o aelodau.[8]
Datgysylltodd Fawcett ei hun â rhyddfrydiaeth yn 1884: ond roedd hi dal o'r un farn am y bleidlais i fenywod. Fodd bynnag, bu i'w safbwynt gwleidyddol newid, a daethant yn debycach i'w safbwyntiau pan roedd hi'n ieuengach. Yn 1883, daeth Fawcett yn lywydd ar y Pwyllgor Apeliadau Arbennig.[9]
Roedd Fawcett hefyd yn awdur a oedd yn gsyrifennu dan ei henw ei hun, ond fel ffigur cyhoeddus Mrs. Henry Fawcett oedd hi. Roedd ganddi dri llyfr, llyfr wedi'i gydysgrifennu â'i gŵr, Henry Fawcett, a nifer o erthyglau.[10]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Janet Howarth, ‘Fawcett, Dame Millicent Garrett (1847–1929)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; online edn, Oct 2007 accessed 4 Jan 2017
- ↑ "Spartacus educational".
- ↑ "Fawcett Society History".
- ↑ Manton, Jo (1965). Elizabeth Garrett Anderson: England's First Woman Physician. London: Methuen. t. 20.
- ↑ Ogilvie, Marilyn Bailey (1986). Women in science: antiquity through the nineteenth century: a biographical dictionary with annotated bibliography (arg. 3. print.). Cambridge, Mass.: MIT Press. ISBN 0-262-15031-X.
- ↑ Garrett Anderson, Louisa (1939). Elizabeth Garrett Anderson, 1836-1917. Faber and Faber.
- ↑ Van Wingerden, Sophia A. (1999). The women's suffrage movement in Britain, 1866–1928. Palgrave Macmillan. t. 100. ISBN 0-312-21853-2.
- ↑ National Union of Women's Suffrage Societies. "NUWSS". National Union of Women's Suffrage Societies.
- ↑ Copeland, Janet. "Millicent Garrett Fawcett". History Review. Cyrchwyd 25 Chwefror 2013.[dolen farw]
- ↑ Rubinstein, David. "Millicent Garrett Fawcett and the Meaning of Women's Emancipation, 1886–99". Victorian Studies. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-14. Cyrchwyd 25 Chwefror 2013.