Millicent Mackenzie

Roedd Millicent Hughes Mackenzie (186310 Rhagfyr 1942) yn Athro addysg yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy, yr athro prifysgol benywaidd cyntaf yng Nghymru a'r cyntaf a benodwyd i brifysgol siartredig lawn yn y Deyrnas Unedig. Sefydlodd gangen y swffragetiaid yng Nghaerdydd, a safodd fel ymgeisydd yn Etholiad Cyffredinol 1918, y fenyw cyntaf i ymgeisio am sedd seneddol yng Nghymru a'r unig fenyw i sefyll fel ymgeisydd yn Etholiad Cyffredinol 1918 yng Nghymru. Ysgrifennodd ar athroniaeth addysg ac roedd yn arloeswr addysg Steiner-Waldorf yn y Deyrnas Unedig.

Millicent Mackenzie
Millicent Mackenzie 1915.jpg
Ganwyd1863 Edit this on Wikidata
Bryste Edit this on Wikidata
Bu farw10 Rhagfyr 1942 Edit this on Wikidata
Brockweir Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Baner Cymru Cymru
Galwedigaethswffragét Edit this on Wikidata
Cyflogwr

BywydGolygu

Ganwyd Hester Millicent Hughes yn 1863 yn ferch i Walter William Hughes (1833–1909) a Hester Catherine, née Tuckett (1834–1871) ym Mryste.

Gyrfa AcademaiddGolygu

Cafodd ei haddysg yn Clifden, Bryste, Montmirail, y Swistir yn 1877 a Choleg Prifysgol Bryste yn 1878. Yn 1888 aeth i Goleg Athrawon Caergrawnt lle daeth hi'n ffrind gyda Elizabeth Phillips Hughes, pennaeth y coleg. Yn dilyn ei hyfforddiant yng Nghaergrawnt, daliodd Millicent Hughes swydd ddysgu dwy flynedd yn Ysgol Uwchradd i Ferched Sheffield i ennill profiad addysgu ymarferol pellach.

Aeth i weithio yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy fel Meistres Arferol yn 1891 yn gyfrifol am adran hyfforddi athrawon elfennol ac uwchradd y menywod. Yn fuan ar ôl ei phenodi, roedd Hughes yn un o bum derbynnydd Ysgoloriaeth Deithio Gilchrist ar gyfer Athrawon Merched ac, ym 1893, treuliodd ddau fis yn astudio ac yn adrodd ar ysgolion uwchradd ar gyfer merched a sefydliadau hyfforddi athrawon i ferched yn yr Unol Daleithiau. Ar ôl dychwelyd, cyhoeddodd adroddiad gydag Amy Blanche Bramwell o'r enw The Training of Teachers in the United States (1894). Canolbwyntiodd ei gwaith ar ddulliau ar gyfer paratoi athrawon i weithio mewn ysgolion a daeth yn gefnogwr addysgu merched a bechgyn ar y cyd. Trwy gydol ei gyrfa cyhoeddodd nifer o bamffledi a llyfrau ar addysg, gan gynnwys Hegel’s Educational Theory and Practice (1909).

Tra rodd hi yn ne Cymru, daeth hi i adnabod John Stuart Mackenzie, athro athroniaeth yng Ngholeg y Brifysgol. Yn dilyn eu priodas yn 1898, cafodd ganiatâd arbennig i barhau i weithio a chafodd ei dyrchafu i fod yn Athro Addysg ym 1904 a hi oedd y fenyw gyntaf i ennill statws athro llawn yng Nghymru ym 1910.

Dyrchafwyd Mackenzie yn athro cynorthwyol addysg ym 1904 ac yn athro addysg llawn (menywod) ym 1910, gan ddod y fenyw gyntaf i ennill statws athro yng Nghymru. Daliodd Mackenzie y swydd hon nes iddi hi a John Mackenzie ymddeol ym 1915[1].

Cafodd ei phenodi i Senedd y Coleg yn 1909 (y fenyw cyntaf i'w phenodi i Senedd Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy), er bod cofnodion y senedd yn dangos Mackenzie yn bresennol mewn cyfarfodydd o 25 Hydref 1904.[2]

Ym 1916, sefydlodd The Guild of Education for National Service a Choleg Hyfforddi Halsey, cynllun hyfforddi sy’n canolbwyntio ar y plentyn i athrawon a gweithwyr cymdeithasol. Yn ystod ei hamser yng Nghaerdydd, roedd yn ffigwr amlwg yn yr ymgais i drechu tlodi ac roedd ganddi rôl flaenllaw ym mudiad merched y ddinas[3].

Addysg SteinerGolygu

Daeth Mackenzie yn aelod y Theosophical Society yn 1913 ac ymuodd a changen Llundain Harry Collinson, oedd yn astudio gwaith Rudolph Steiner yn 1914.

Yn dilyn y Rhyfel Mawr, aeth Mackenzie a'i gwr ar deithia darlithio i India, Burma, Ceylon ac Ewrop rhwng 1920 a 1922, a Berkeley, Califfornia yn 1923. Roedden nhwyn y Goetheanum yn Dormach ar gyfer cwrs celf a drefnwyd gan Baron Arlid Rosenkrantz a chwrdd a Rudolf Steiner am y tro cyntaf a gweld gwaith yr Ysgol steiner cyntaf.[4]

O ganlyniad i'r gynhadledd, trefnodd Mackenzie gyfres o ddarlithoedd gan Rudoplh Steiner ar gyfer athrawon adeg Nadolig 1921.

Gwnaeth lawer i hyrwyddo syniadadu Rudolph Steiner gan gynnwys cynhadled yn Stratford-on-Avon ym mis Ebrill 1922 a darlith ar Rudolph Steiner ac addysg yn Essex Hall, llundain ar 30 Awst 1924.[4][5]

Gyrfa WleidyddolGolygu

Roedd Mackenzie yn un o sylfaenwyr ac yn is-lywydd ar y Gymdeithas Pleidleisiau i Fenywod Caerdydd a’r Fro, ac yn gyd-sylfaenydd a llywydd cangen Caerdydd a’r Fro Ffederasiwn Menywod Prifysgolion Prydain.

Yn dilyn pasio Deddf y Senedd (Amod Benywaidd) a Deddf Cynrychiolaeth y Bobl yn 1918 cafodd Mackenzie ganiatâd i sefyll fel ymgeisydd dros y Blaid Lafur ar gyfer etholaeth newydd Prifysgol Cymru, gan ddod yn ymgeisydd seneddol benywaidd cyntaf Cymru. Syr John Herbert Lewis, ymgeisydd y Rhyddfrydwyr a chyn Aelod Seneddol Sir y Fflint, enillodd yr etholiad.

Nodyn:Election box win
Etholiad Cyffredinol 1918: Prifysgol Cymru
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
[[Coalition Liberal|Nodyn:Coalition Liberal/meta/shortname]] Gwir Anrhydedd. John Herbert Lewis 739 80.8 N/A
Llafur Mrs H.M. Mackenzie 176 19.2 N/A
Mwyafrif 563 61.6 N/A
Nifer pleidleiswyr 915 85.8 N/A

Mae copi o'i anerchiad etholiad yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru[6].

Bu ei gwr, John Mackenzie, farw ym mis Rhagfyr 1935 yn eu cartref yn Brockwier, yn swydd Caerloyw, ac ar ôl golygu ei nodiadau, cyhoeddodd ei hunangofiant ym 1936.[7] Cyfrannodd arian ar gyfer adeiladu neuadd y dref newydd yn Brockweir, a rhoddodd yr enw Neuadd Macksenzie ar ol ei gŵr.[8] Bu Millicent Mackenzie farw ar 10 Rhagfyr 1942 yn Brockweir.

CyhoeddiadauGolygu

  • Freedom in Education An Inquiry into Its Meaning, Value And Conditions by H Millicent Mackenzie. Hodder & Stoughton Ltd (1905) ASIN B000KZGHCA
  • Hegel's Educational Theory and Practice by H. Millicent Hughes Mackenzie. S. Sonnenschein & Co., Ltd (1909) ASIN B00087QADG
  • Moral Education: The Training of the Teacher by Millicent MacKenzie 1909

CyfeiriadauGolygu

  1. "Mackenzie [née Hughes], (Hettie) Millicent (1863–1942), educationist and suffragist". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-56242. Cyrchwyd 2020-04-21.
  2. [Minutes of the University of South Wales and Monmouthshire Senate (Ref: UCC/SN/M/4). Information provided by Cardiff University Institutional Archive, "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Medi 2015. Cyrchwyd 26 Tachwedd 2014.CS1 maint: archived copy as title (link).]
  3. "Ymgeisydd benywaidd cyntaf Cymru". Prigysgol Cymru. Cyrchwyd 21/04/2020. Check date values in: |access-date= (help)
  4. 4.0 4.1 Rudolf Steiner in Britain by Crispian Villeneuve. Temple Lodge Press 2009 ISBN 978-1-906999-03-2
  5. Hester Millicent Mackenzie Biographische Dokumentation der Forschungsstelle Kulturimpuls retrieved 2014.09.12
  6. "University of Wales representation, - National Library of Wales Archives and Manuscripts". archives.library.wales. Cyrchwyd 2020-04-21.
  7. John Stuart Mackenzie. [An autobiography.] Edited by his wife, etc. With a chapter on the life and work of J. S. Mackenzie by W. Tudor Jones. Williams & Norgate, 1936
  8. History of the Mackenzie Hall, Brockwell Village Hall retrieved 2014.09.09