Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1918

Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1918 oedd yr etholiad cyntaf i'w gynnal ar ôl Deddf Cynrychioli'r Bobl 1918, ac felly yr etholiad cyntaf yn y Deyrnas Unedig y gallai merched bleidleisio ynddo. Cynhaliwyd yr etholiad ar 14 Rhagfyr 1918, er na ddechreuodd y cyfrif hyd 28 Rhagfyr. Enillwyd yr etholiad gan glymblaid rhwng y Blaid Ryddfrydol dan David Lloyd George a'r Blaid Geidwadol dan Andrew Bonar Law. Roedd rhai elfennau o'r Blaid Geidwadol a'r Blaid Ryddfrydol yn gwrthwynebu'r glymblaid, ond ni fuont yn llwyddiannus iawn. Roedd y canlyniad yn golygu fod Lloyd George yn parhau fel Prif Weinidog. Cafodd y Blaid Lafur lawer mwy o bleidleisiau nag o'r blaen, ond ni fu llawer o gynnydd yn nifer y seddau a enillwyd ganddynt.

Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1918
Enghraifft o'r canlynolEtholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dyddiad14 Rhagfyr 1918 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganEtholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig yng Nghymru, Rhagfyr 1910 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganetholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig 1922 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn Iwerddon, collodd y Blaid Seneddol Wyddelig bron y cyfan o'u seddau i Sinn Féin dan Éamon de Valera. Ystyrir yr etholiad yma yn allweddol yn hanes Iwerddon, gan arwain at y rhyfel am annibyniaeth a ffurfio Gweriniaeth Iwerddon yn 1922. Un o ymgeiswyr llwyddiannus Sinn Féin oedd y ferch gyntaf i'w hethol i Dŷ'r Cyffredin, sef Constance Georgine, Iarlles Markiewicz. Yn unol â pholisi Sinn Féin, gwrthododd gymeryd ei sedd.

Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1918
Plaid Seddi Pleidleisiau %
Plaid Geidwadol Clymblaid
332
3,472,738
33.3
Plaid Ryddfrydol Clymblaid
127
1,396,590
13.4
Sinn Féin
73
497,107
4.8
Plaid Lafur
57
2,245,777
21.5
Plaid Geidwadol
50
671,454
6.4
Plaid Ryddfrydol
36
1,388,784
13.3
Plaid Lafur Ddemocrataidd Genedlaethol
9
156,834
1.5
Plaid Seneddol Wyddelig
7
238,197
2.3
Llafur Clymblaid
4
53,962
0.6
Llafur Annibynnol
2
116,322
1.1
Annibynnol
2
105,261
1.0
Y Blaid Genedlaethol (D.U.)
2
94,389
0.9
Y Blaid Gydweithredol
1
57,785
0.6
Ceidwadwr Annibynnol
1
44,637
0.4
Rhyddfrydwr Annibynnol
1
24,985
0.2
Sosialwyr Cenedlaethol
1
11,013
0.1
Clymblaid Annibynnol
1
9,274
0.1
Annibynnol NADSS
1
8,287
0.1
1801 cyfethol | 1802 | 1806 | 1807 | 1812 | 1818 | 1820 | 1826 | 1830 | 1831 | 1832 | 1835 | 1837 | 1841 | 1847 | 1852 | 1857 | 1859 | 1865 | 1868 | 1874 | 1880 | 1885 | 1886 | 1892 | 1895 | 1900 | 1906 | 1910 (Ion) | 1910 (Rhag) | 1918 | 1922 | 1923 | 1924 | 1929 | 1931 | 1935 | 1945 | 1950 | 1951 | 1955 | 1959 | 1964 | 1966 | 1970 | 1974 (Chwe) | 1974 (Hyd) | 1979 | 1983 | 1987 | 1992 | 1997 | 2001 | 2005 | 2010 | 2015 | 2017 | 2019
Refferenda y Deyrnas Unedig
1975 | 2011 | 2016