Mindanao
Ynys ail-fwyaf y Philipinau yw Mindanao. Yn ogystal, mae'n enw ar un o dri grŵp o ynysoedd yn y Philipinau, gyda Visayas a Luzon. Hen enw ar yr ynys oedd Gran Molucas.
![]() | |
Math | ynys ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 27,021,036 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+08:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Mindanao ![]() |
Gwlad | y Philipinau ![]() |
Arwynebedd | 97,530 km² ![]() |
Gerllaw | Philippine Sea, Môr Celebes, Sulu Sea, Mor Bohol ![]() |
Cyfesurynnau | 7.5°N 125°E ![]() |
![]() | |
Mae gan yr ynys arwynebedd o 97,530 km2 a phoblogaeth o 18,133,864. Y ddinas fwyaf yw Davao, gyda phoblogaeth o 1,147,116 yn 2000. Mae'n ynys fynyddig, ac yma mae copa uchaf y wlad, Mynydd Apo (2,954 medr). Er mai Cristnogion yw mwyafrif y trigolion, ceir canran uwch o Fwslimiaid yma nag yn y gweddill o'r Philipinau, ac mae nifer o gyrff yn ymladd am annibyniaeth, yn eu plith Jemaah Islamiyah.