Mis Hanes Pobl Dduon

Mae Mis Hanes Pobl Dduon, a elwir hefyd yn Mis Hanes Affricanaidd America yn America, yn ddigwyddiad blynyddol yn yr Unol Daleithiau, Canada, Gwledydd Prydain (ers 1987) ac yn yr Iseldiroedd (o 2016) lle caiff ei alw'n Fis Cyflawniad Du.

Mis Hanes Pobl Dduon
Pwrpas: Cofio pobl a digwyddiadau pwysig yn hanes y diaspora Affricanaidd
Dyddiad: Pob mis Chwefror yn America
Pob mis Hydref yn Ewrop
Nodwyd gan: Unol Daleithiau
Canada
Gwleydd Prydain
Yr Iseldiroedd

Dechreuodd fel ffordd i gofio pobl a digwyddiadau pwysig yn hanes y diaspora Affricanaidd.

Fe'i dethlir bob blwyddyn yn yr Unol Daleithiau a Chanada ym mis Chwefror, yn ogystal ag yng ngwelydd Prydain a'r Iseldiroedd ym mis Hydref.

Sefydlu wythnos cofio

golygu
 
Carter G. Woodson

Crëwyd Negro History Week yn wreiddiol ym 1926 gan yr hanesydd Carter G. Woodson fel ffordd o gynnwys hanes pobl dduon yn system addysg gyhoeddus yr Unol Daleithiau. Er iddo beidio derbyn fawr o gefnogaeth ar y dechrau, cydiodd y syniad a thyfodd y poblogrwydd dros y blynyddoedd.

Yn ôl Woodson: If a race has no history, it has no worthwhile tradition, it becomes a negligible factor in the thought of the world, and it stands in danger of being exterminated. [1]

Cynabod y mis yn swyddogol

golygu

Ym 1969 sefydlwyd Black History Month gan addysgwyr ym Mhrifysgol Kent State. [2]

Erbyn 1976 cydnabuwyd y mis yn swyddogol gan yr Arwydd Gerald Ford yn ystod ddau-ganmlwyddiant yr Unol Daleithiau gan annog Americanwyr i seize the opportunity to honor the too-often neglected accomplishments of black Americans in every area of endeavor throughout our history.[3]

Gwleydd Prydain (1987)

golygu

Dathlwyd yn gyntaf yn Llundain ym 1987, wedi’i trefnu gan Akyaaba Addai-Sebo ar ran Cyngor Llundain.[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Daryl Michael Scott, "The Origins of Black History Month," Archived 2013-02-14 at the Wayback Machine. Association for the Study of African American Life and History, 2011, www.asalh.org/
  2. Milton Wilson, "Involvement/2 Years Later: A Report On Programming In The Area Of Black Student Concerns At Kent State University, 1968–1970" (Special Collections and Archives: Milton E. Wilson, Jr. papers, 1965–1994, Kent State University); adalwyd 28 Medi 2012
  3. "President Gerald R. Ford's Message on the Observance of Black History Month" (Gerald R. Ford Presidential Library and Museum, University of Texas); adalwyd 14 Chwefror 2012
  4. Kubara Zamani, "Akyaaba Addai-Sebo Interview", Every Generation Media, ailargraffu o gylchgrawn New African

Dolen allanol

golygu

Gwefan swyddogol