Mischa Barton
Actores ffilm, teledu a llwyfan Prydeinig-Americanaidd yw Mischa Barton (ganwyd 24 Ionawr 1986)[1]. Dechreuodd ei gyrfa ar y llwyfan. Ei rôl ffilm fawr gyntaf oedd fel prif gymeriad Lawn Dogs (1997). Ymddangosodd mewn ffilmiau fel y gomedi ramantus Notting Hill (1999) a'r drama seicolegol The Sixth Sense (1999).
Mischa Barton | |
---|---|
Ganwyd | Mischa Anne Marsden Barton 24 Ionawr 1986 Hammersmith |
Dinasyddiaeth | Y Deyrnas Unedig UDA |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor ffilm, actor plentyn, model, actor llwyfan, actor teledu, actor |
Mam | Nuala Quinn-Barton |
Partner | Brandon Davis |
Cafodd Barton ei geni yn Ysbyty Queen Charlotte's a Chelsea yn Hammersmith,[2] Llundain, [1][3] yn ferch i[2] Nuala Quinn-Barton, [4] cynhyrchydd, a'i gŵr Paul Marsden Barton,[4] brocer cyfnewid tramor. [2] Mae ganddi hi ddwy chwaer, Hania Barton a Zoe Barton.[5] Cafodd Mischa Barton ei addysg gynnar yn Ysgol Ferched St. Paul yn Hammersmith. Aeth gwaith ei thad â'r teulu i Ddinas Efrog Newydd pan oedd Barton yn bum mlwydd oed. Yn 2006, [2] daeth yn ddinesydd brodoredig o'r Unol Daleithiau . [6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Mischa Barton Biography". TV Guide (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Medi 2009. Cyrchwyd 24 Awst 2009.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 "Mischa Barton". Hello (yn Saesneg). 24 Ionawr 1986. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Gorffennaf 2013. Cyrchwyd 15 Mehefin 2013.
- ↑ "Mischa Barton Biography" (yn Saesneg). Mischabarton.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mawrth 2009. Cyrchwyd 24 Awst 2009.
- ↑ 4.0 4.1 Montiquem, Fabien (31 Mai 2007). "Mischa Barton hurts her parents". Thebosh.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 September 2009. Cyrchwyd 6 Awst 2009.
- ↑ "Profiles - The life of celebrities & royals, biographies, news, photos - HELLO!" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Medi 2015. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2017.
- ↑ Carroll, Lauren (13 Awst 2009). "Mischa Barton's TV career back on track". IrishCentral (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Hydref 2013. Cyrchwyd 15 Medi 2013.