Misty (cymeriad Grand Theft Auto)

cymeriad Grand Theft Auto

Mae Misty yn gymeriad mewn dwy gêm yn y gyfres gemau fideo Grand Theft Auto.[1] Mae'n ymddangos fel cymeriad bach yn Grand Theft Auto III a Grand Theft Auto Advance. Mae hi'n butain sy'n gweithio i Luigi Goterelli yn ei glwb nos, Sex Club Seven, yn Ardal Golau Goch Portland, Liberty City. Mae Kim Gurney yn lleisio hi yn GTA III[2]. Mae hi heb lais yn GTA Advance. Er bod ei henw yn cael ei sillafu fel m i s t y yng nghredydau'r gêm, mae hi'n ynganu ei henw fel Mitsy[3].

Misty
Misty yn GTA III
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Galwedigaethputain Edit this on Wikidata

Misty yn GTA Advance golygu

Mae Mike, prif arwr y gêm, yn gyrru Misty a dwy butain arall i gleientiaid pwysig ar orchymyn 8-Ball, mewn ymgais i ddarganfod gwybodaeth am farwolaeth Vinnie, cyfaill Mike. Yn ddiweddarach mae Misty yn symud i Ynys Staunton ac yn dechrau gweithio i gyd-arweinydd y Yakuza Asuka Kasen, gan gyfarfod â Mike unwaith eto pan fo Asuka yn ei ddanfon i ddelio â pimp a fu'n plagio rhai o'i merched.

Misty yn GTA III golygu

Mae Misty wedi dychwelyd i fyw ar Ynys Portland. Mae ganddi fflat yn Hepburn Heights, ac yn gweithio i Luigi Goterelli yn ei glwb, Sex Club Seven yn yr Ardal Golau Goch. Mae hi hefyd wedi dod yn "ferch reolaidd" Joey Leone, peiriannydd ac aelod blaenllaw o'r syndicâd Maffia Teulu Leone. Mae hi'n cwrdd â Claude, prif arwr y gêm, am y tro cyntaf pan fydd o'n cael y dasg o'i chodi hi o Ysbyty Cyffredinol Sweeney i'w dychwelyd i'r clwb. Mae Claude a Misty yn cyfarfod unwaith eto pan fydd yn gyrru hi i garej Joey Leone yn Nhrenton. Mae'r ddau yn cyfarfod am y tro olaf, pan mae Joey Leone yn rhoi tasg iddo o ladd Mike Forelli, aelod amlwg o'r syndicâd Teulu Forelli.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Grand Theft Wiki - Misty". Grand Theft Wiki. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2018.
  2. "Full Grand Theft Auto III credits". Internet Movie Database. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2018.
  3. "GTA 3 - Walkthrough - Mission #2 - Luigi's Girls". Youtube. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2018.