8-Ball (Cymeriad Grand Theft Auto)
Mae 8-Ball yn gymeriad yn y gyfres gemau fideo Grand Theft Auto sy'n ymddangos mewn tri o gemau'r gyfres. Mae'n ymddangos fel prif gymeriad yn Grand Theft Auto III (a osodwyd yn 2001)[1] a Grand Theft Auto Advance (a osodwyd yn 2000), a chymeriad cefnogol yn Grand Theft Auto: Liberty City Stories [2](a osodwyd ym 1998). Mae'n werthwr ffrwydron a drylliau, sy'n berchen ar garejys sy'n gosod ffrwydron mewn ceir yn ninasoedd Liberty City, Vice City a San Andreas.[3]
8-Ball | |
---|---|
8-Ball yn GTA III | |
Ffugenw | 8-Ball |
Ganwyd | Unknown 1971 Liberty City |
Man preswyl | Liberty City |
Dinasyddiaeth | UDA |
Galwedigaeth | arms trader |
Mae'r cymeriad yn cael ei leisio gan y diweddar artist rap Americanaidd Keith "Guru" Elam.
Ganwyd.8-Ball ym 1971 a chafodd ei fagu yn Liberty City. Roedd ei dad yn fan droseddwr a oedd yn aml yn chwarae pŵl, sy'n gyfrifol am ei ffugenw.
8-Ball yn Liberty City Stories
golyguMae 8-Ball yn ymddangos mewn dwy dasg yn Liberty City Stories. Yn y gyntaf bydd Toni Cipriani yn mynd ato i brynu ffrwydron ar ran Donald Love[4]. Dydy'r ffrwydron ddim ar gael yn y garej ac mae'n rhaid i Toni disgwyl am alwad ffôn gan 8-Ball i ddweud bod y ffrwydron wedi cyrraedd. Yn yr ail dasg mae Toni yn derbyn yr alwad gan 8-Ball ac yn mynd i gasglu'r ffrwydron. Mae o'n defnyddio'r ffrwydron i chwythu ardal Fort Staunton o Ynys Staunton.
8-Ball yn GTA: Advance
golyguYn GTA Advance mae 8 ball yn paratoi dogfennau ffug ar gyfer ei gyfaill Vinnie a Mike ei bartner sydd yn bwriadu ffoi o Liberty City. Mae Mike yn mynd i gasglu'r dogfennau ond cyn i'r ddau cael cyfle i ffoi mae Vinnie'n cael ei lofruddio. Mae Mike yn mynd i wneud tasgau ar gyfer 8 ball, sydd yn dweud bod ganddo syniad o bwy oedd yn gyfrifol am y llofruddiaeth. Tasg gyntaf Mike yw cael gwared a chorff Vinnie. Yn dilyn hyn, mae Mike yn darparu puteiniaid (gan gynnwys Misty) i gwsmeriaid pwysig 8 ball. I ddarparu pecyn i gwsmer dig, ac i ddial ar Scorelli, troseddwr oedd wedi ymosod ar un o gyfeillion 8 ball. Wedi cael clywed gan un o'r puteiniaid bod gan dafarnwr o'r enw Jonnie gwybodaeth am farwolaeth Vinnie mae 8 ball yn danfon Mike i weithio iddo ef. Yn ddiweddarach, mae 8-Ball yn cwrdd â Mike eto mewn bwyty, ond mae Cartel y Colombiaid yn ymosod arnynt. Mae 8-Ball. Mae 8-Ball yn llosgi ei ddwylo yn ystod yr ymosodiad ac yn methu â dianc, mae'n ddweud wrth Mike i ddianc cyn i'r heddlu gyrraedd.
8-Ball yn GTA III
golyguWedi cael ei arestio yn GTA Advance mae 8-Ball yn cael ei ddedfrydu i garchar am wyth deg pum cyhuddiad o fod ag arfau yn ei feddiant heb drwydded.[5] Er bod erthygl ym mhapur dyddiol Liberty City, The Liberty Tree, yn adrodd ei fod wedi ei arestio yn ei gartref a bod ei ddwylo wedi llosgi wrth i swyddog yr heddlu tywallt sosban o fraster berwedig drostynt. Mae o'n cael ei drosglwyddo i'r carchar gyda Claude, prif gymeriad y gêm a hen ŵr o Ddwyrain Asia[6]. Mae Cartel y Colymbiaid yn ymosod ar y cerbyd heddlu sydd yn eu trosglwyddo er mwyn herwgipio'r hen ŵr. Yn y dryswch, mae 8-Ball a Claude yn llwyddo i ddianc o warchodaeth yr heddlu.
Wedi canfod lle i Claude aros mae 8-Ball yn ei yrru i Glwb Rhyw Luigi ac yn ei gyflwyno i Luigi Goterelli, hen ffrind ac aelod o syndicâd Maffia Leone, sy'n dechrau ei gyflogi. Yn ddiweddarach, mae Salvatore Leone, pennaeth y syndicâd yn danfon Claude i 8-Ball i gael ffrwydron. Mae'r ddau yn defnyddio'r ffrwydron i ddinistrio llong ym mhorthladd Portland, a oedd yn cael ei ddefnyddio gan Gartel y Colombiaid i gynhyrchu cyffuriau[7].
8-Ball mewn gemau eraill
golyguEr nad yw 8-Ball ei hun yn ymddangos yn y gemau mae garejys 8-Ball ar gael i brynu ffrwydron yn Grand Theft Auto: Vice City, Grand Theft Auto: Vice City Stories a Grand Theft Auto: San Andreas.[8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Bogenn, Tim (2001). Grand Theft Auto III: Official Strategy Guide. Brady Games. ISBN 978-0744000986.
- ↑ Bogenn, Tim (2006). Grand Theft Auto: Liberty City Stories Official Strategy Guide PS2. Brady Games. ISBN 978-0744007633.
- ↑ "8-Ball". GTA Fandom. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2018.
- ↑ "No Money, Mo' Problems". grandtheftwiki. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2018.
- ↑ "Liberty Tree: "Another Punch in the Gut for Organized Crime"". Official Grand Theft Auto III website. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-18. Cyrchwyd July 26, 2006.
- ↑ "Liberty Tree: "Elderly Asian Man Held After Failing to Satisfy Immigration"". Official Grand Theft Auto III website. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-18. Cyrchwyd July 26, 2006.
- ↑ "Grand Theft Auto III Bomb da Base Act I/II". YouTube. 22 Mawrth 2009. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2018.
- ↑ "8-Ball Autos". GTA Fandom. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2018.