Organyn allgnewyllol sfferig neu hirfaith yn sytoplasm bron pob gell ewcaryotig yw mitocondrion (lluosog: mitocondria).

Strwythur mitocondrion:
1) Pilen fewnol
2) Pilen allanol
3) Cristâu
4) Matrics

Swyddogaeth y mitocondria yw i greu egni (ATP) o fwyd trwy resbiradaeth – ac maent yn gwneud hyn trwy adweithiau cymhleth biocemegol. Wedi ei ddosbarthu o amgylch y corff, mae nifer y mitocondria yn dibynnu ar faint o egni sydd angen ar y gell hwy. Er enghraifft, ar gell gyhyr mae angen mwy o fitocondria am ei fod yn cael ei ddefnyddio trwy’r amser, weithiau o dan straen mawr, nid oes angen gymaint o fitocondria ar gell storio braster, er enghraifft, gan nad yw’r gell dan straen i wneud gymaint o bethau.

Eginyn erthygl sydd uchod am fioleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.