Mitsio
Mae mitsio yn air Cymraeg tafodieithol a defnyddir yn ardal Bae Abertawe am osgoi mynd i'r ysgol. Y gair Saesneg am yr un peth yw mitching. Defnyddir mitching yn aml yn Iwerddon ac mae'n bosib y daeth y gair i Gymru gyda Gwyddelod adeg y chwyldro diwydiannol. Fe ddywedir mae tarddiad gwreiddiol y gair yw o'r Ffrangeg muchier.
Defnyddir y geiriau "the mitching boys" yn fersiwn gwreiddiol y gerdd "The Hunchback From The Park" gan Dylan Thomas, ond fe newidiodd i "the truant boys" ar gyfer y fersiwn terfynol.